Ynglŷn â sgrinio'r fron - Arwyddion a symptomau canser y fron
Gall canser y fron achosi nifer o arwyddion a symptomau. Nid canser y fron yw’r rhan fwyaf o newidiadau i’r fron, gan gynnwys lympiau yn y fron. Bydd dod o hyd i ganser y fron yn gynnar yn rhoi’r siawns orau i chi o gael triniaeth lwyddiannus.
Gofynnwch i’ch meddyg wirio unrhyw newidiadau. Peidiwch ag aros ar gyfer eich apwyntiad sgrinio’r fron.
Arwyddion a symptomau i gadw llygad amdanynt:
- Lwmp neu chwydd yn y fron, rhan uchaf y frest neu’r gesail.
- Newid i faint, siâp neu liw un fron.
- Newid i’r croen megis crychiad neu banylu’r croen.
- Unrhyw newid i leoliad y deth – cael ei thynnu i mewn neu wyro’n wahanol.
- Unrhyw redlif anghyffredin (hylif) neu waed o’r deth.
- Brech neu grawennu o amgylch y deth.
- Anghysur neu boen mewn un fron sy’n barhaus ac yn newydd i chi.
Mae’n bwysig eich bod yn dod i adnabod sut mae eich bronnau’n edrych ac yn teimlo, bydd hyn yn eich helpu i sylwi ar unrhyw newidiadau sy’n wahanol.
Pethau y gallwch eu gwneud i gadw’n iach:
- Mynd i sgrinio’r fron pan gewch wahoddiad.
- Rhowch wybod am unrhyw newidiadau i’ch meddyg teulu heb oedi.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein taflen Gofalu Am Eich Bronnau.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 9fed Chwefror 2026