Ynglŷn â sgrinio'r fron - Eich apwyntiad sgrinio’r fron
Mae’r fideo byr hwn yn helpu pobl i ddeall beth yw sgrinio’r fron a pham mae’n bwysig. Mae’n eich tywys drwy’r daith sgrinio, gan ddangos sut mae pelydr-X y fron (mamogram) yn cael ei gymryd ac yn dweud wrthych am yr ystod o gymorth sydd ar gael.
Ble y byddaf yn cael fy sgrinio?
Cewch wahoddiad i fynychu sesiwn sgrinio yn un o’r unedau sgrinio symudol neu mewn canolfan sgrinio. Bydd eich llythyr gwahodd yn nodi ble y cewch eich sgrinio. Bydd lle y cewch eich sgrinio yn dibynnu gyda pa bractis meddyg teulu rydych wedi’ch cofrestru.
Newid fy apwyntiad
Cysylltwch â ni os na allwch fynychu eich apwyntiad. Efallai y gallwn gynnig amser, dyddiad neu leoliad mwy cyfleus i chi.
Mae apwyntiadau sgrinio’r fron yn brin. Rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu peidio â dod i’ch apwyntiad gan y gallwn gynnig eich apwyntiad i rywun arall.
Os nad oes angen eich apwyntiad arnoch mwyach, cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn eich cefnogi.
Os gwnaethoch fethu eich apwyntiad sgrinio’r fron, gallwch gysylltu â ni i drefnu apwyntiad newydd. Mae’n bwysig nad ydych yn aros am dair blynedd nes eich bod yn cael eich gwahodd eto.
Paratoi ar gyfer fy apwyntiad
Cyn eich apwyntiad:
- Darllenwch yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch.
- Cysylltwch â ni os oes angen cymorth yn ystod eich apwyntiad.
- Sicrhewch eich bod yn gwybod ymhle mae eich apwyntiad.
- Cynlluniwch sut y byddwch yn cyrraedd, dylech ganiatáu digon o amser i deithio.
- Byddwch yn ymwybodol efallai y bydd angen i chi dalu i barcio yn rhai o’r lleoliadau sgrinio.
- Dylech ganiatáu o leiaf 30 munud ar gyfer eich apwyntiad.
- Mae’n syniad da gwisgo trowsus neu sgert a thop, yn hytrach na ffrog, gan y bydd gofyn i chi ddadwisgo o’r wasg i fyny.
- Cyn eich apwyntiad, peidiwch â defnyddio diaroglydd chwistrell neu bowdr talc am y gall hwn ddangos i fyny ar eich pelydr-X o’r fron. Gallwch ddefnyddio diaroglydd rholio.
Cysylltwch â ni cyn dod i’ch apwyntiad, os:
- oes gennych anabledd corfforol neu os ydych chi’n cael trafferth â grisiau, er mwyn i ni allu gwneud trefniadau addas i chi
- ydych chi wedi cael pelydr-x o’r fron o fewn y 6 mis diwethaf, neu os ydych chi’n feichiog neu’n bwydo ar y fron; os felly, efallai y cewch chi eich cynghori i ohirio prawf sgrinio’r fron
- ydych wedi cael diagnosis o ganser y fron yn ddiweddar, neu’n cael triniaeth ar hyn o bryd
- nad oes modd efallai i chi roi caniatâd i sgrinio’r fron
- ydych yn ofalwr sydd â phŵer atwrnai parhaol ar gyfer eich iechyd a lles
- oes gennych anghenion cyfathrebu neu gyfieithu, neu
- ydych yn drawsrywiol ac yn dymuno trafod eich apwyntiad
Eich cadw’n ddiogel yn eich apwyntiad
Mae’r mesurau canlynol ar waith er mwyn cadw pawb yn ddiogel yn ystod eu hapwyntiad:
- Mae staff gofal iechyd yn dilyn canllawiau atal a rheoli heintiau. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn arferion glanhau dwylo llym ac yn glanhau holl ardaloedd ac offer y clinig yn rheolaidd.
- Mae hylif diheintio dwylo ar gael.
- Ewch i’ch apwyntiad ar amser. Os byddwch yn cyrraedd yn gynnar, efallai y bydd yn rhaid i chi aros. Os ydych yn hwyr, efallai na fyddwn yn gallu eich sgrinio.
- Os oes angen cyfieithydd arnoch, os ydych yn dod gyda gofalwr neu angen cymorth yn eich apwyntiad, cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad i drafod hyn.
Cofiwch, er mwyn atal haint rhag lledaenu, peidiwch â dod i’ch apwyntiad sgrinio os ydych yn sâl.
Cyrraedd eich apwyntiad
Ewch i’ch apwyntiad ar amser. Os byddwch yn cyrraedd yn gynnar, efallai y bydd yn rhaid i chi aros. Os ydych yn hwyr, efallai na fyddwn yn gallu eich sgrinio.
Oherwydd maint yr uned symudol, gofynnwn i chi ddod i’r apwyntiad ar eich pen eich hun. Os oes angen cymorth arnoch yn ystod eich apwyntiad, cysylltwch â ni cyn mynychu.
Ni fyddwn yn gallu gwneud y prawf sgrinio os dewch â phlant gyda chi. Mae hyn am resymau iechyd a diogelwch.
Sylwch nad oes cyfleusterau toiled ar yr uned symudol.
Am y prawf
Pan fyddwch yn cyrraedd yr uned sgrinio’r fron, bydd y staff yn gwirio eich manylion ac yn gofyn i chi ynghylch unrhyw broblemau bron rydych wedi’u cael. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch.
Cyflawnir pelydr-x bronnau gan staff benywaidd a elwir yn Radiograffwyr neu’n Ymarferwyr Cynorthwyol. Byddant yn esbonio’r hyn fydd yn digwydd. Gofynnir i chi newid yn yr ystafell pelydr-x neu mewn ciwbicl newid preifat. Bydd angen i chi dynnu eich bra ac os byddwch mewn ciwbicl newid gwisgwch eich dillad uchaf hyd nes y byddwch yn mynd i’r ystafell pelydr-x. Efallai bydd yn haws gwisgo sgert neu drowsus yn hytrach na ffrog.
Pan gewch eich galw ar gyfer eich pelydr-x o’r fron, bydd yr aelod o staff sy’n gwneud y profion yn rhoi eich bron ar y peiriant pelydr-x. Caiff plât plastig ei ostwng i wasgu’r fron. Mae hyn y bwysig iawn gan ei fod yn helpu i gadw’ch bron yn llonydd a chael delwedd pelydr-x clir. Cymerir o leiaf dau belydr-x o bob bron.
Dim ond ychydig o funudau y bydd y prawf yn ei gymryd. Mae pawb yn wahanol; gall y prawf fod yn anghysurus neu’n boenus i rai pobl. Mae hyn fel arfer yn pasio’n gyflym. Dywedwch wrth yr aelod o staff sy’n gwneud y prawf a fyddwch am roi’r gorau i’r prawf ar unrhyw adeg.
Os oes gennych fewnblaniadau bronnau neu lenwyr chwistrelladwy, byddwch yn cael taflen wybodaeth i’w darllen, oherwydd gall y rhain wneud sgrinio’n anoddach.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch ofyn i aelod o staff sgrinio.
Os na all yr aelod o staff gwblhau pelydr-x o’ch bron, mae’n bosibl y byddwch yn dal i dderbyn canlyniad ar yr mannau a gymerwyd pelydr-x ohonynt.
A fydd y driniaeth yn brifo?
Mae angen gwasgu’ch bronnau rhwng dau blât i gynhyrchu mamogramau o ansawdd da gyda dos isel o ymbelydredd. Dim ond am ychydig eiliadau y bydd y pwysau’n para. Os byddwch yn profi poen, fel arfer dim ond cyhyd ag y mae’r driniaeth yn para y bydd hynny. Mewn nifer fach iawn o fenywod, gall bara’n hirach.
Efallai y gofynnir i chi a hoffech gymryd rhan mewn treial clinigol
Mae’r rhain yn astudiaethau ymchwil feddygol. Bydd unrhyw dreial a gynigir i chi yn casglu gwybodaeth am y mathau gorau o brofion neu driniaethau canser y fron, er mwyn i ni allu helpu menywod yn fwy effeithiol yn y dyfodol. Chi sy’n dewis a ydych am gymryd rhan ai peidio.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 11eg Chwefror 2026