Ynglŷn â sgrinio'r fron - Eich gwahoddiad sgrinio’r fron
Sut y caf wahoddiad?
Mae Bron Brawf Cymru yn cael eich manylion cyswllt oddi wrth eich meddyg. Mae’n bwysig fod gan eich meddyg eich enw a’ch cyfeiriad cywir, fel arall efallai na fyddwn yn gallu anfon eich llythyr apwyntiad atoch. Os nad ydych wedi’ch cofrestru gyda meddyg, cysylltwch â ni i weld os allwch gael sgrinio’r fron.
Bydd angen i chi roi gwybod i ni os ydych chi:
- Yn symud, oherwydd bydd angen i chi lenwi ffurflen newid cyfeiriad.
- Wedi cael llawdriniaeth adluniol, mewnblaniadau bronnau neu lenwyr chwistrelladwy, oherwydd mae’n bosibl y bydd yn anoddach eich sgrinio.
Efallai gwahoddir rhai pobl i gael eu sgrinio nad oes ei angen arnynt. Efallai na fyddwn yn ymwybodol eich bod yn cael eich trin am ganser y fron, neu os ydych yn derbyn triniaeth ddilynol mewn clinig bron mewn ysbyty.
Efallai y byddwn yn anfon gwahoddiad at rai pobl sydd wedi cael tynnu’r ddwy fron (mastectomi dwyochrog).
Cysylltwch â ni os oes angen gwahoddiad arnoch ar gyfer sgrinio’r fron, os ydych chi’n meddwl na ddylech fod wedi cael gwahoddiad, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich apwyntiad sgrinio’r fron.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni os na fyddwch yn bresennol oherwydd efallai y byddwn yn gallu cynnig yr apwyntiad hwn i rywun arall.
Cysylltwch â’ch meddygfa os ydych yn poeni am unrhyw newidiadau yn eich iechyd. Peidiwch ag aros am wahodd i gael eich sgrinio.
Eich dewis chi yw sgrinio’r fron
Eich dewis chi yw mynd am brawf sgrinio’r fron. Nid yw sgrinio yn eich atal rhag cael canser y fron, ond dyma’r ffordd orau o atal canserau yn gynnar.
Efallai y byddwch yn penderfynu nad ydych eisiau cael eich sgrinio y tro hwn, ond y byddwch yn fodlon cael gwahoddiad eto ymhen tair blynedd. Rhowch wybod i ni.
Os penderfynwch nad ydych eisiau gwahoddiadau i gael eich sgrinio yn y dyfodol, bydd modd i chi ddewis peidio â’u derbyn. Cysylltwch â’ch canolfan sgrinio’r fron agosaf i ddysgu sut bydd modd gwneud hyn.
Beth os oes angen cymorth ychwanegol arnaf?
Os oes angen gwybodaeth mewn fformat hygyrch arnoch chi neu ar berson rydych yn ei gefnogi, neu gymorth i fynychu eich apwyntiad, cysylltwch â ni.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 11eg Chwefror 2026