Neidio i'r cynnwys

Ynglŷn â sgrinio ymlediadau aortig abdomenol - Eich apwyntiad ymlediad aortig abdomenol

Ble y byddaf yn cael fy sgrinio?

Cynhelir sgrinio YAA mewn clinigau cymunedol a lleoliadau eraill.  Anfonir llythyr apwyntiad a map atoch, a fydd yn dweud wrthych ble y cewch eich sgrinio.

Newid fy apwyntiad

Mae apwyntiadau sgrinio YAA yn brin. Cysylltwch â ni os:

  • Na allwch ddod i’ch apwyntiad, oherwydd efallai y gallwn gynnig amser, dyddiad a lleoliad mwy addas i chi.
  • Nad ydych yn bwriadu dod; gallwn gynnig eich apwyntiad i rywun arall.
  • Oes gennych anabledd neu os oes arnoch angen cymorth, oherwydd gallwch ofyn am apwyntiad hirach.
  • Ydych wedi methu eich apwyntiad sgrinio YAA fel y gallwn drefnu apwyntiad newydd.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni os na fyddwch yn bresennol oherwydd efallai y byddwn yn gallu cynnig yr apwyntiad hwn i rywun arall.

Paratoi ar gyfer fy apwyntiad

Cyn eich apwyntiad:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall yr wybodaeth a anfonwyd atoch.
  • Cysylltwch â ni os bydd arnoch angen cymorth yn eich apwyntiad. 
  • Sicrhewch eich bod yn gwybod ymhle mae eich apwyntiad.
  • Cynlluniwch sut y byddwch yn cyrraedd, dylech ganiatáu digon o amser i deithio.
  • Byddwch yn ymwybodol efallai y bydd angen i chi dalu i barcio yn rhai o’r lleoliadau sgrinio.
  • Dylech ganiatáu o leiaf 30 munud ar gyfer eich apwyntiad.

Cyrraedd eich apwyntiad

Gofynnwn i chi ddod i’ch apwyntiad yn brydlon ac ar eich pen eich hun os oes modd.  

Os bydd arnoch angen cymorth yn ystod eich apwyntiad, cysylltwch â nii cyn dod.

Eich cadw’n ddiogel yn eich apwyntiad

Mae staff gofal iechyd yn dilyn canllawiau atal a rheoli heintiau. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn arferion glanhau dwylo llym ac yn glanhau holl ardaloedd ac offer y clinig yn rheolaidd. 

Mae hylif diheintio dwylo ar gael.

Efallai yr hoffech chi wisgo gorchudd wyneb (mwgwd) wrth ddod i’ch apwyntiad. Os nad oes gennych un, gallwch ofyn i aelod o staff am un.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 23ain Mawrth 2026