Cwestiynau cyffredin YAA
Pam nad ydych yn sgrinio dynion o dan 65 mlwydd oed?
Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth i ddangos y byddai gwahodd pob dyn o dan 65 mlwydd oed i sgrinio yn fuddiol.
Mae tua 95% o YAAs sy’n rhwygo yn digwydd mewn dynion 65 mlwydd oed a hŷn. Os ydych o dan 65 mlwydd oed ac rydych yn poeni y gallech fod mewn perygl o gael YAA, dylech siarad â’ch meddyg.
Pam nad yw merched yn cael eu sgrinio?
Mae dynion chwe gwaith yn fwy tebygol na merched o gael YAA.
Mae YAA wedi rhwygo yn llai cyffredin mewn merched na dynion ac, ar gyfartaledd, mae’n digwydd ddeng mlynedd yn ddiweddarach nag mewn dynion.
Nid yw’r Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol (Saesneg yn unig) yn argymell cynnig sgrinio ar gyfer YAA i ferched.
Dylai merched sydd â hanes o YAA yn y teulu drafod gyda’u meddyg, a fydd yn gallu rhoi cyngor iddynt.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli fy apwyntiad?
Os byddwch yn colli’ch apwyntiad, byddwch yn derbyn llythyr arall yn eich gwahodd i’n ffonio o fewn 28 diwrnod i wneud apwyntiad newydd. Os na fyddwch yn cysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwn, cewch eich tynnu oddi ar ein cofnodion. Er hyn, gallwch gyfeirio’n ôl ar unrhyw adeg.
Byddwn yn rhoi gwybod i’ch meddyg na wnaethoch ddod i’ch apwyntiad.
Beth os nad ydw i am gael fy sgrinio?
Os byddwch yn dewis peidio â chymryd rhan mewn sgrinio YAA, gallwch ‘optio allan’. Mae hyn yn golygu y byddwn yn tynnu eich manylion oddi ar ein rhestr wahoddiadau ac ni fyddwn yn anfon unrhyw wybodaeth bellach i chi am sgrinio YAA.
I optio allan, gallwch gysylltu â ni.
Os byddwch yn cysylltu â ni drwy e-bost, bydd rhaid i chi roi eich enw llawn, eich dyddiad geni, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn.
A gynigir llawdriniaeth i YAA bach a chanolig?
Na, mae gan YAA bach a chanolig risg isel o rwygo.
Mae’r risg o lawdriniaeth yn uwch na’r risg o fonitro YAA bach a chanolig. Ni argymhellir llawdriniaeth i ddynion ag YAA bach a chanolig.
Os bydd yr YAA yn tyfu’n gyflym (mwy nag 1cm bob blwyddyn) neu os bydd yr YAA yn dod yn fawr, mae’n bosibl y bydd llawdriniaeth yn opsiwn. Bydd eich tîm arbenigol yn siarad â chi am hyn.
A allaf gadw’n heini os oes gen i YAA?
Mae’n dibynnu ar faint eich YAA. Os yw eich YAA yn fach neu’n ganolig, gallwch siarad â’ch meddyg neu’r nyrs sgrinio YAA am gadw’n heini.
Os oes gennych YAA mawr, gallwch siarad â’ch tîm arbenigol am gyngor.
A allaf yrru o hyd os oes gen i YAA?
Bydd yn dibynnu ar faint eich YAA. Mae’r DVLA yn datgan bod angen i chi gysylltu â nhw os oes gennych YAA o 6.5cm neu fwy. Os oes gennych YAA mawr, mae’n bosibl y cewch eich cynghori i beidio â gyrru hyd nes eich bod wedi derbyn triniaeth. Os nad ydych yn sicr, siaradwch â’ch meddyg neu dîm arbenigol yr ysbyty, a all eich cynghori a ddylech yrru ai peidio.
Yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) fydd yn penderfynu a all pobl yrru ar sail eu hiechyd neu unrhyw gyflyrau a allai fod ganddynt.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan GOV.UK (Saesneg yn unig).
A fyddaf yn gallu hedfan os oes gen i YAA?
Bydd yn dibynnu ar faint eich YAA. Os nad ydych yn sicr, siaradwch â’ch meddyg neu dîm arbenigol yr ysbyty, a all eich cynghori a ddylech hedfan ai peidio.
A oes angen i mi ddweud wrth fy nghwmni yswiriant teithio os oes gen i YAA?
Oes, fe’ch cynghorir i ddweud wrth eich cwmni yswiriant teithio os oes gennych YAA. Mae’n bosibl y codir premiwm ychwanegol arnoch neu mae’n bosibl y bydd yr amod yn cael ei dynnu oddi ar yr yswiriant.
Gall brocer helpu wrth chwilio am yswiriant. Mae Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) yn darparu gwasanaeth ‘Dod o hyd i frocer’ a all helpu. Gallwch gysylltu â nhw ar 0370 950 1790.