Sgrinio’r fron
Beth yw sgrinio’r fron?
Mae prawf sgrinio’r fron yn chwilio am ganser y fron cyn i’r symptomau ymddangos. Bydd dod o hyd i ganser y fron yn gynnar yn rhoi’r siawns orau i chi o gael triniaeth lwyddiannus ac o oroesi’r canser.
Mae prawf sgrinio’r fron yn golygu cymryd pelydrau-x o’r fron, a elwir yn famogramau. Cymerir o leiaf dau belydr-x o bob bron.
Bydd cymryd rhan mewn prawf sgrinio’r fron pan gewch eich gwahodd yn rhywbeth y gallwch ei wneud i ofalu am eich iechyd.
Mae sgrinio’n bwysig oherwydd gall ddod o hyd i:
- ganserau pan fyddant yn rhy fach i’w gweld neu eu teimlo
- a thrin canser yn gynnar, bydd yn rhoi’r siawns orau i chi oroesi
Ynglŷn â sgrinio’r fron
Dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio. Mae’n bwysig eich bod yn deall y manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â sgrinio’r fron er mwyn helpu chi benderfynu a yw’n iawn gymryd rhan. Defnyddiwch y tudalennau isod i ddarganfod mwy am broses sgrinio’r fron.
- Rhesymau dros fynd i sgrinio’r fron
- Eich gwahoddiad sgrinio’r fron
- Eich apwyntiad sgrinio’r fron
- Eich canlyniadau sgrinio’r fron
- Eich apwyntiad asesu sgrinio’r fron
- Arwyddion a symptomau canser y fron
- Mamograffeg a risg ymbelydredd
Ynglŷn â chanser y fron
Mae canser y fron yn dechrau pan fo celloedd yn y fron yn dechrau tyfu ac yn cronni i ffurfio lwmp. Gelwir hyn hefyd yn diwmor. Wrth i’r canser dyfu, gall celloedd ledaenu i rannau eraill o’r corff. Gall hyn fygwth bywyd.
Canser y fron yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU ac mae’n effeithio ar un o bob saith menyw rhywbryd yn ystod eu bywydau.
Mae’r risg o gael canser y fron yn cynyddu wrth i chi fynd yn hŷn. Darganfyddir tua 4 o bob 5 canser mewn menywod dros 50 oed.
Trwy ddod o hyd i ganser yn gynnar a derbyn triniaethau gwell, mae pobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser yn byw yn hirach
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ganser y fron ar NHS UK (Saesneg yn unig).
Pwy gaiff ei sgrinio?
Bydd menywod o 50 hyd at eu penblwydd yn 70 oed yn derbyn gwahoddiad yn y post ar gyfer sgrinio’r fron. Ein nod yw gwahodd menywod pob tair blynedd.
Efallai na fyddwch yn derbyn eich gwahoddiad cyntaf pan fyddwch yn 50 oed. Rydym yn gwahodd menywod yn seiliedig ar bryd y bydd practis eu meddyg yn cael ei sgrinio. Cewch wahoddiad ar gyfer sgrinio cyn eich pen-blwydd yn 53 oed.
Ni chaiff menywod dros 70 oed wahoddiad ar gyfer sgrinio, ond gallwch gysylltu â Bron Brawf Cymru a gofyn am apwyntiad.
Efallai y gwahoddir pobl sy’n drawsryweddol neu’n anneuaidd ar gyfer sgrinio’r fron. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ei’n wybodaeth i bobl sy’n drawsryweddol neu’n anneuaidd.
Ni fyddwn yn sgrinio menywod sydd â symptomau’r fron. Os ydych wedi sylwi ar newid yn eich bron peidiwch ag aros ar gyfer eich apwyntiad sgrinio’r fron. Mae’n bwysig eich bod yn siarad gyda’ch meddyg.
Ni fyddwn yn sgrinio menywod o dan 50 oed oherwydd i’r rhaglen sgrinio’r fron ddangos i fod o fudd i fenywod dros 50 yn unig. Os oes gennych symptomau, neu os ydych yn pryderu am hanes eich teulu, dylech siarad gyda’ch meddyg.
Data
Data am y niferoedd sydd wedi manteisio ar sgrinio’r fron
-
Y niferoedd sydd wedi mynd i Bron Brawf Cymru yn ôl clwstwr Meddyg Teulu (ym mis Mai 2021)
Er mwyn cyfrifo’r niferoedd a gafodd eu sgrinio, menywod cymwys oedd y rhai 50-70 oed…
-
Y niferoedd sydd wedi mynd i Bron Brawf Cymru yn ôl bwrdd iechyd ac awdurdod lleol (ym mis Mai 2021)
Er mwyn cyfrifo’r niferoedd a gafodd eu sgrinio, menywod cymwys oedd y rhai 50-70 oed…
-
Y niferoedd sydd wedi mynd i Bron Brawf Cymru yn ôl clwstwr Meddyg Teulu (ym mis Tachwedd 2019)
Er mwyn cyfrifo’r niferoedd a gafodd eu sgrinio, menywod cymwys oedd y rhai 50-70 oed…
-
Y niferoedd sydd wedi mynd i Bron Brawf Cymru yn ôl bwrdd iechyd ac awdurdod lleol (ym mis Tachwedd 2019)
Er mwyn cyfrifo’r niferoedd a gafodd eu sgrinio, menywod cymwys oedd y rhai 50-70 oed…