Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau cyffredin Sgrinio Serfigol - Eich apwyntiad prawf sgrinio serfigol (ceg y groth)

Mae’n amser fy mislif – a allaf gael fy mhrawf sgrinio serfigol (ceg y groth) o hyd?

Yr amser gorau i fynd i gael eich prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yw pan nad ydych ar eich mislif.

Os yw eich cylch yn rheolaidd, ceisiwch drefnu apwyntiad ar gyfer prawf sgrinio serfigol naill ai cyn neu ar ôl eich mislif.

Os yw eich cylch yn afreolaidd ac nad ydych yn gwybod pryd i ddisgwyl eich mislif nesaf, dylech drefnu i fynd i gael eich prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) o hyd.

Os ydych yn gwaedu ar ddiwrnod eich apwyntiad, gall yr unigolyn sy’n cymryd sampl gennych edrych ar geg y groth ac asesu a yw’n gallu cymryd y sampl serfigol neu beidio. Mae hyn oherwydd bod gwaedu trwm weithiau’n gallu achosi i’r prawf fod yn ‘annigonol’, sy’n golygu na fyddech yn derbyn canlyniad ond yn hytrach byddech yn cael eich cynghori i ddychwelyd am ail brawf sgrinio serfigol (ceg y groth) ymhen o leiaf 12 wythnos.

Os ydych yn gwaedu pan na ddylech fod yn gwaedu, megis gwaedu ar ôl rhyw, rhwng eich mislif neu ar ôl y menopos, dylech weld eich meddyg, hyd yn oed os ydych wedi cael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yn ddiweddar.

Rwy’n fenyw 56 oed sydd wedi bod trwy’r menopos, sy’n teimlo bod sgrinio’n anghyfforddus neu’n boenus, beth allaf i ei wneud?

Trafodwch y mater gyda’r sawl a fydd yn cymryd eich sampl a fydd yn asesu’r rhesymau dros y boen neu’r anghysur. Mae’n bosibl mai atroffi serfigol sy’n gyfrifol am hyn, sef ceg y groth yn crebachu ar ôl y menopos. Mae hyn yn broses arferol. Os mai dyma’r rheswm, ac nad yw’n bosibl i chi gael prawf yn ystod yr ymweliad hwnnw, efallai y bydd y sawl a fydd yn cymryd eich sampl yn argymell defnyddio eli estrogen i’r croen i’w gymryd cyn eich apwyntiad nesaf ar gyfer sgrinio serfigol.

Beth os byddaf yn sylwi ar unrhyw symptomau cyn fy mhrawf sgrinio serfigol (ceg y groth) nesaf?

Ewch i weld eich meddyg teulu os oes gennych unrhyw un o’r symptomau canlynol:

  • Gwaedu ar ôl cael rhyw, rhwng eich mislif neu ar ôl y menopos
  • Rhedlif newydd neu wahanol o’r wain (newid i’r lliw, i’r maint neu’r trwch)
  • Poenau yn eich bol is neu yn eich cefn, neu boen yn ystod rhyw

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17eg Chwefror 2026