Ynglŷn â sgrinio coluddion - Rhesymau dros gymryd rhan mewn sgrinio coluddyn
Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio ai peidio. Mae’n bwysig eich bod chi’n deall manteision a risgiau sgrinio i’ch helpu chi i benderfynu a yw cymryd rhan yn iawn i chi.
Beth yw manteision prawf sgrinio’r coluddyn?
- Bydd dod o hyd i ganser y coluddyn yn gynnar yn rhoi’r cyfle gorau i chi oroesi. Mae o leiaf 9 o bob 10 unigolyn yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod yn gynnar.
- Gall prawf sgrinio’r coluddyn helpu i ganfod canser y coluddyn yn gynnar, hyd yn oed os ydych yn iach ac nad oes gennych unrhyw symptomau.
- Gallwch gwblhau pecyn profi’r coluddyn gartref.
- Mae pecyn profi’r coluddyn yn gyflym ac yn hawdd i’w gwblhau a dim ond un sampl bach o bŵ sydd ei angen.
Beth yw risgiau cwblhau prawf sgrinio’r coluddyn?
- Nid yw prawf sgrinio’r coluddyn 100% yn gywir.
- Mae’n bosibl na fydd rhai mathau o ganser yn cael eu canfod ac mae’n bosibl na fydd rhai mathau o ganser yn cael eu gwella.
Mae’n bosibl y bydd risgiau wrth gael profion pellach. Os bydd angen profion pellach arnoch, bydd eich nyrs sgrinio neu’ch meddyg yn siarad â chi am y rhain.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21ain Chwefror 2025