FOI 1011 – Yr Iaith Gymraeg
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: FOI 1011
Dyddiad derbyn y cais: 16/12/2022
Dyddiad y disgwylir anfon yr wybodaeth: 18/01/2023
Gwybodaeth y gofynnwyd amdani:
Hoffwn gopi o’ch polisi iaith Gymraeg ac gwybodaethsut ydych yn sicrhau bod pob datganiad i’w darllen gan y cyhoedd (yn cynnwys Cynghorwyr) yn cydymffufrio â’r polisi.
Gwybodaeth a ddarparwyd ar gyfer yr ateb:
“Helo,
Nid oes gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bolisi allanol y Gymraeg. Rydym yn cydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg. Gweler https://icc.gig.cymru/amdanom-ni/cynllun-cyhoeddi/y-gymraeg/ am fwy o wybodaeth.
Diolch yn fawr,
Iechyd Cyhoeddus Cymru”
Os nad ydych yn fodlon â’r gwasanaeth a gawsoch mewn perthynas â’ch cais ac yr hoffech wneud cwyn neu ofyn am adolygiad o’r penderfyniad, dylech ysgrifennu at Reolwr Cwynion Corfforaethol, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, 3, Rhif 2, Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ.
Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich cwyn neu’ch adolygiad, gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Yn gyffredinol, ni all yr ICO wneud penderfyniad oni bai eich bod wedi dilyn a gorffen y weithdrefn gwyno a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Comisiynydd Gwybodaeth Cymru
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 029 2067 8400
E-bost: [email protected]