Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth i bobl drawsryweddol (traws) neu anneuaidd

Mae’r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych yn draws neu anneuaidd.

Os ydych chi’n ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n weithiwr iechyd proffesiynol, efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi hefyd.

Bydd gwybodaeth yn yr adran hon yn eich helpu i ddeall pa brofion sgrinio y gallwch eu cael a phryd. Bydd hefyd yn eich helpu i benderfynu a ddylech gymryd rhan ai peidio.

Sut y byddaf yn cael fy ngwahodd i sgrinio?

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, bydd rhaglenni sgrinio yn eich gwahodd yn seiliedig ar eich:

  • oed; a’ch
  • rhywedd.

Gwahoddir pobl yn dibynnu ar eu dynodwr rhywedd. Mae dynodwr rhywedd yn cyfeirio at sut rydych wedi’ch cofrestru gyda’ch meddyg, er enghraifft efallai eich bod wedi’ch cofrestru fel gwryw neu fenyw, neu’n amhenodol.

Gall eich risg o rai cyflyrau ddibynnu ar y rhyw a neilltuwyd i chi ar eich genedigaeth. Er enghraifft, os rhoddwyd chi mewn categori rhyw gwrywaidd adeg eich geni, rydych chwe gwaith yn fwy tebygol o gael Ymlediad Aortig Abdomenol na rhywun a roddwyd mewn categori rhyw benywaidd adeg ei eni.

Efallai y bydd rhai pobl yn cael eu gwahodd yn awtomatig i sgrinio nad oes ei angen arnynt. Er enghraifft, os ydych wedi’ch cofrestru’n fenyw gyda’ch meddyg teulu, fe’ch gwahoddir i wneud apwyntiad ar gyfer sgrinio serfigol. Os nad oes gennych geg y groth, nid oes angen i chi fod yn bresennol.

Efallai na fydd rhai pobl yn cael eu gwahodd yn awtomatig, ond rydym yn argymell eu bod yn ystyried trefnu apwyntiad. Er enghraifft, os nad ydych wedi’ch cofrestru’n fenyw gyda’ch meddyg, ni chewch eich gwahodd i sgrinio’r fron er y gallai fod gennych fronnau.

Gwybodaeth:

Os credwch y dylech fod wedi cael gwahoddiad i gael prawf sgrinio, cysylltwch â’ch meddyg neu y rhaglen sgrinio. Byddant yn gallu dweud wrthych sut i gael y profion sydd eu hangen arnoch. Ewch i dudalennau ‘cysylltu â ni’ ar wefan y rhaglen i gysylltu â ni.

Cymryd rhan mewn sgrinio

I wneud penderfyniad ynghylch cymryd rhan mewn sgrinio, rhaid i berson gael:

  • mynediad at wybodaeth glir a chywir, mewn fformat sy’n addas i’w hanghenion
  • cymorth (os oes ei angen arnynt) i ddeall yr wybodaeth
  • amser i ystyried yr wybodaeth, a
  • chymorth pellach (os oes ei angen arnynt) i’w helpu i wneud penderfyniad. 

Rydym yn deall y gallech fod yn poeni am gymryd rhan mewn sgrinio. Efallai yr hoffech chi siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, er enghraifft ffrindiau, teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol.

I gael rhagor o wybodaeth am sgrinio yng Nghymru, ewch i Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Trawsysgrif

Os ydych yn draws ac anneuaidd, gall fod yn anodd gwybod pa brawf sgrinio y dylech ei gael, pryd y dylech ei gael, a’r hyn sydd angen i chi ei wneud.

Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn gwybod pa brofion sgrinio sydd ar gael i chi a sut y gallwch gymryd rhan. Mae sgrinio’n edrych am arwyddion cynnar o rai cyflyrau pan fyddant efallai’n rhy fach i chi eu gweld neu eu teimlo, neu efallai na fyddwch hyd yn oed yn gwybod bod unrhyw beth yn wahanol.

Mae dod o hyd i’r cyflyrau hyn yn gynnar yn rhoi’r siawns orau o driniaeth lwyddiannus i chi.

Gwahoddir pobl i gael eu sgrinio yn dibynnu ar eu marcwyr rhywedd.

Marciwr rhywedd yw sut rydych chi wedi cofrestru gyda’ch meddyg. Er enghraifft, os ydych wedi cofrestru gyda’ch meddyg fel gwryw, benyw, neu amhenodol.

Mae’n bwysig gwybod pa brofion sgrinio sydd ar gael.

Gall eich risg o rai cyflyrau ddibynnu ar y rhyw a neilltuwyd i chi ar eich genedigaeth. Er enghraifft, os ydych chi’n cael eich pennu’n wryw ar eich genedigaeth, rydych chwe gwaith yn fwy tebygol o gael anewrysm aortig yn yr abdomen na rhywun sydd wedi’i bennu’n fenyw ar ei enedigaeth.

Yn dibynnu ar sut y gwnaethoch gofrestru gyda’ch meddyg, mae’n bosibl y cewch eich gwahodd i gael prawf sgrinio pan nad oes ei angen arnoch.

Er enghraifft, os ydych wedi’ch cofrestru fel benyw gyda’ch meddyg teulu, fe’ch gwahoddir i wneud apwyntiad ar gyfer sgrinio serfigol. Os nad oes gennych chi serfics, nid oes angen i chi ddod.

Efallai na fyddwch yn cael eich gwahodd yn awtomatig ar gyfer prawf sgrinio yr argymhellir i chi ei gael. Er enghraifft, os nad ydych wedi cofrestru fel benyw gyda’ch meddyg, ni fyddwch yn cael eich gwahodd i gael prawf sgrinio’r fron—hyd yn oed os oes gennych fronnau.

Rydym yn deall y gallech fod yn poeni am gael prawf sgrinio, oherwydd efallai y bydd newidiadau corfforol i’ch corff yr ydych yn ei chael hi’n anodd.

Byddwn yn eich trin ag urddas a pharch, a bydd popeth a ddywedwch wrthym yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol. Rydym am i bawb gael profiad cadarnhaol o sgrinio.

Os ydych chi’n poeni am gael prawf sgrinio neu os hoffech chi gael rhagor o gefnogaeth gennym ni, cysylltwch â ni.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.