Neidio i'r cynnwys

Sgrinio serfigol

Gelwir prawf sgrinio serfigol hefyd yn brawf ceg y groth. Nid yw’r prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yn brawf ar gyfer canser. Mae’n chwilio am fathau risg uchel o feirws cyffredin iawn o’r enw feirws papiloma dynol (HPV).

Mae bron pob achos o ganser ceg y groth yn cael ei achosi gan fathau risg uchel o HPV. Gall y feirws achosi newidiadau i’r celloedd dros amser, a all arwain at ganser ceg y groth os na fyddant yn cael eu trin. Gall dod o hyd i newidiadau i’r celloedd yn gynnar atal canser ceg y groth rhag datblygu.

Gall sgrinio rheolaidd leihau’r risg o gael canser ceg y groth 70%.

Mae’n haws trin canserau ceg y groth sy’n cael eu darganfod yn gynnar.

Bydd merched rhwng 25 i 64 oed yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio serfigol bob 5 mlynedd.

Mae’n bosibl y bydd angen i bobl drawsryweddol neu anneuaidd sydd â cheg y groth gael prawf sgrinio serfigol. I gael gwybod rhagor, ewch i’n tudalennau gwybodaeth i bobl drawsryweddol ac anneuaidd.

Ynglŷn â sgrinio serfigol

Canser ceg y groth (gwddf y groth) yw canser serfigol.

Bob blwyddyn, bydd tua 160 o achosion newydd o ganser ceg y groth yng Nghymru. Dyma’r canser mwyaf cyffredin ymysg merched o dan 35 oed.

Mae bron pob achos yn cael ei achosi gan y feirws papiloma dynol (HPV). Mae hwn yn feirws cyffredin iawn y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei gael ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.

Darllenwch ragor o wybodaeth am ganser ceg y groth drwy ymweld ag NHS UK (Saesneg yn unig).

Dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio. Mae’r wybodaeth yn yr adrannau canlynol yn egluro’r hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn cymryd rhan mewn sgrinio serfigol.

  1. Rhesymau dros fynd i sgrinio serfigol
  2. Ynglŷn â’r Feirws Papiloma Dynol (HPV)
  3. Eich gwahoddiad sgrinio serfigol
  4. Eich apwyntiad sgrinio serfigol
  5. Eich canlyniadau sgrinio serfigol
  6. Ynglŷn â cholposgopi a thriniaeth
  7. Arwyddion a symptomau

Pam mae sgrinio serfigol yn bwysig?

Bydd cymryd rhan mewn prawf sgrinio serfigol pan gewch eich gwahodd yn rhywbeth y gallwch ei wneud i ofalu am eich iechyd.

Mae sgrinio’n bwysig oherwydd y gall atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu gall ddod o hyd iddo yn gynnar.

Data

Data ar y niferoedd sydd wedi manteisio ar sgrinio serfigol (ceg y groth)