Parodrwydd am argyfyngau, cydnerthedd ac ymateb

Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynllunio ar gyfer argyfyngau. Daw’r ddyletswydd hon o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, sy’n nodi Iechyd Cyhoeddus Cymru fel ymatebydd Categori 1.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni roi cynlluniau ar waith fel y gallwn barhau i gyflawni ein gwasanaethau allweddol os bydd argyfwng yn digwydd neu os yw’n debygol o ddigwydd. Mae’r cynlluniau hyn yn ein helpu i:

  • atal argyfyngau lle bo modd
  • lleihau neu reoli eu heffeithiau
  • ymateb yn effeithiol pan fydd argyfyngau’n digwydd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain ar barodrwydd am argyfyngau, cydnerthedd ac ymateb ym maes iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Rydym yn darparu cyngor gwyddonol a thechnegol arbenigol ac yn gweithio’n agos gyda sefydliadau partner i ddiogelu iechyd pobl.

Rydym yn mabwysiadu dull pob perygl. Mae hyn yn golygu bod ein cynlluniau wedi’u dylunio i weithio ar gyfer llawer o fathau gwahanol o argyfyngau, nid dim ond un. Mae ein cynlluniau’n seiliedig ar arfer gorau a gwersi a ddysgwyd o argyfyngau go iawn, digwyddiadau sylweddol ac ymarferion hyfforddi. Rydym yn defnyddio’r dysgu hwn i gryfhau ein hymateb a gwella ein cydnerthedd dros amser.

Mae swyddogaeth Parodrwydd am Argyfyngau, Cydnerthedd ac Ymateb (EPRR) yn cynnwys cynllunio parhad busnes. Mae’n cydlynu ac yn darparu gwaith i wella cydnerthedd y sefydliad. Mae’r gwaith hwn yn cael ei oruchwylio gan y Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio a’r Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm EPRR [email protected]