Neidio i'r cynnwys

Canlyniad eich prawf gwaed cyn geni: efallai eich bod yn gludydd thalasaemia alffa

  • Nid yw’r canlyniad hwn yn ddiagnosis. Dim ond awgrymu’r posibilrwydd o fod yn gludydd y mae’n ei wneud. 
  • Nid yw bod yn gludydd posibl o thalasaemia alffa yn golygu eich bod yn sâl neu y byddwch yn mynd yn sâl. Mae’r rhan fwyaf o gludyddion yn byw bywydau normal ac iach ac nid oes angen triniaeth arnynt.
  • Un o achosion cyffredin eich canlyniad yw diffyg haearn, sy’n hawdd ei wirio a’i drin. Bydd eich bydwraig yn trefnu hyn.
  • Dim ond os oes gennych lefel isel o haearn y bydd ei angen arnoch chi. Peidiwch â chymryd atchwanegiadau haearn oni bai bod prawf yn dangos bod eu hangen arnoch. Gall cymryd haearn yn ddiangen fod yn ddi-fudd

Sut mae canlyniad eich prawf wedi’i ysgrifennu? 

Mae canlyniad eich prawf wedi’i ysgrifennu fel: Canlyniadau’n gyson â chludydd thalasaemia alffa posibl a/neu ddiffyg haearn.

Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu?

Haemoglobin yw’r sylwedd mewn celloedd gwaed coch sy’n cludo ocsigen o amgylch eich corff. Mae eich prawf gwaed diweddar wedi dangos bod eich celloedd gwaed coch yn llai nag arfer. Fel arfer, diffyg haearn yn eich gwaed sy’n achosi hyn, sef yr achos mwyaf cyffredin o anemia. Ond gall hefyd gael ei achosi gan thalasaemia. Bydd eich bydwraig yn cynnig profion i weld a oes gennych ddiffyg haearn.

Beth yw thalasaemia alffa?

Anhwylderau gwaed yw cyflyrau haemoglobin sy’n cael eu hetifeddu gan y ddau riant biolegol. Mae llawer o wahanol gyflyrau haemoglobin. Mae thalasaemia alffa yn gyflwr etifeddol. Bydd y math o gyflwr y gallai eich baban ei etifeddu yn dibynnu ar ba fath o enynnau haemoglobin sydd gan y ddau riant biolegol. Fel arfer nid oes gan gludyddion broblemau iechyd ac nid oes angen triniaeth arnynt. Mae rhai cyflyrau’n fwy difrifol nag eraill. Mae’n bwysig gwybod os yw tad biolegol eich baban hefyd yn gludydd, oherwydd gallai hyn gynyddu’r siawns y bydd eich baban yn etifeddu cyflwr mwy difrifol.

Gall eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol drafod hyn gyda chi, fel eich bod chi’n deall pa gyflwr y gallai eich baban ei etifeddu a sut y gallai hynny effeithio ar iechyd eich baban.

Beth arall sy’n bwysig ei wybod os ydych yn gludydd thalasaemia alffa?

  • Os ydych chi’n cael prawf gwaed, dywedwch wrth eich meddyg y gallech fod yn gludydd thalasaemia alffa gan y gellir ei gamddiagnosio fel diffyg haearn. Os ydyn nhw eisoes yn gwybod y gallech chi fod yn cario thalasaemia alffa, gallant osgoi cynnig profion diangen i chi a rhagnodi meddyginiaeth haearn i chi.
  • Dim ond os yw prawf gwaed yn dangos bod gennych ddiffyg haearn y dylech chi gymryd meddyginiaeth haearn. 
  • Gallwch roi gwaed (pan nad ydych chi’n feichiog) os nad ydych chi’n anemig (nid oes gennych chi lefel is o haemoglobin nag arfer). Am ragor o wybodaeth, ewch i Rhoi Gwaed // Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Sut fyddai fy maban yn etifeddu thalasaemia alffa?

  • Gellir trosglwyddo thalasaemia alffa i’ch plant a dyma pam ei bod hi’n bwysig bod yn ymwybodol y gallech fod yn gludydd. 
  • Mae siawns, os ydych chi’n gludydd thalasaemia alffa, y gallai fod gan eich plant anhwylder haemoglobin difrifol os yw eu tad biolegol hefyd yn gludydd thalasaemia alffa neu’n gludydd amrywiolynnau haemoglobin eraill.
  • Yn ystod beichiogrwydd, i’r rhan fwyaf o fenywod a allai fod yn gludydd thalasaemia alffa, mae’n annhebygol iawn y byddant yn cael plentyn ag anhwylder haemoglobin difrifol. 

A ddylid cynnig profion i dad biolegol fy maban?

Gofynnwyd cwestiynau penodol i chi am darddiad eich teulu cyn y prawf sgrinio hwn, ac fe gafodd hyn ei ystyried wrth ddehongli canlyniad eich gwaed.

Dim ond os bydd adroddiad eich prawf sgrinio yn argymell bod tad biolegol y baban yn cael ei brofi y bydd angen cymryd camau pellach. 

Dim ond os: 

  • ydych chi a thad biolegol eich baban yn dod o wledydd lle mae thalasaemia alffa sero i’w gael amlaf, fel De-ddwyrain Asia (Tsieina, gan gynnwys Hong Kong, Gwlad Thai, Taiwan, Cambodia, Laos, Fietnam, Indonesia, Myanmar, Malaysia, Singapore neu Ynysoedd Philippines) neu Ddwyrain Môr y Canoldir (Cyprus, Gwlad Groeg, Twrci, Sardinia neu wledydd anhysbys); 

Gwybodaeth i dadau a wahoddir ar gyfer prawf sgrinio ar gyfer clefyd crymangelloedd a thalasaemia difrifol

Os yw’r prawf yn dangos bod tad biolegol eich baban yn gludydd genyn haemoglobin anarferol, byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol a diagnosis cyn geni.

Y camau nesaf a dewisiadau

Dywedwch wrth eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os ydych chi:

  • wedi beichiogi o ganlyniad i driniaeth ffrwythlondeb gyda sberm rhoddwr neu wy rhoddwr
  • wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn neu bôn-gelloedd; neu
  • os ydych yn fam fenthyg

Rhagor o wybdoaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan: