Y Gymraeg
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch i fod yn sefydliad dwyieithog.
O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae dyletswydd statudol ar GIG Cymru i gyflwyno eu gwasanaethau i’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, ac mae’n atgyfnerthu’r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
O dan y Mesur dylai unigolion yng Nghymru allu fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg, os mai dyna yw eu dewis.
Ers Mai 30 2019, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg, a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae’n hysbysiad cydymffurfio’n cynnwys pedwar dosbarth o safonau:
- Safonau Cyflenwi Gwasanaethau – eu bwriad yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau a sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg
- Safonau Llunio Polisi – dylai swyddogion ystyried pa effaith y bydd eu penderfyniadau yn ei gael ar allu pobl i ddefnyddio’r iaith ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Safonau Gweithredu – mae’r safonau hyn yn ymdrin â’r defnydd o’r Gymraeg yn fewnol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn hyrwyddo’r cysyniad o weithle dwyieithog, gan roi rhai hawliau ieithyddol i’n gweithwyr wrth iddynt dderbyn eu gwasanaeth Adnoddau Dynol.
- Safonau Cadw cofnodion – mae’r safonau hyn yn delio gyda systemau cadw data a chofnodion am rai o’r safonau eraill.
Mwy na geiriau
Mwy na Geiriau yw Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ei amcan yw i:
- sicrhau bod anghenion iaith siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu
- darparu gwasanaethau Cymraeg i’r rhai sydd eu hangen
- dangos bod iaith yn chwarae rhan bwysig yn ansawdd y gofal ac nad yw’n cael ei weld fel “rhywbeth ychwanegol”.
Fel un o gyrff y GIG, mae cyfrifoldeb ar Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi Llywodraeth Cymru i gwrdd â’r amcanion hyn.
Adroddiadau blynyddol safonau’r Gymraeg
Dyma ein pumed adroddiad ac mae’n adrodd ar y flwyddyn ariannol rhwng 1/4/2023 a 31/03/2024. Mae copiau o’n hadroddiadau blaenorol ar gael drwy gysylltu â Thîm y Gymraeg ar yr ebost isod.
-
Adroddiad blynyddol safonau’r Gymraeg 2023-2024
Dyma Adroddiad Blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2023-24 ac mae’n canolbwyntio ar ein cyflawniadau allweddol yn erbyn Safonau’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn.
Gwybodaeth a dolenni ychwanegol
-
Cynllun ymgynghoriadau clinigol
Diben y ddogfen hon yw nodi amcanion a chamau gweithredu a fydd yn cynyddu gallu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnig a chynnal ymgynghoriadau clinigol a gwasanaethau arbenigol rhoi’r gorau i ysmygu yn Gymraeg.
-
Polisi defnyddio’r Gymraeg
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i hybu a hwyluso’r Gymraeg yng nghyd-destun busnes mewnol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Safon 79).
-
Hysbysiad cydymffurfio Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dyma Hysbysiad Cydymffurfiaeth Safonau’r Gymraeg Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n amlinellu ein hymlyniad wrth Safonau’r Gymraeg ac yn manylu ar y camau a gymerwyd i fodloni’r gofynion hyn.
-
Rheoliadau safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018, sy’n manylu ar y dyletswyddau a’r gofynion penodol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Cwynion
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried pob cwyn o ddifrif, ac mae croeso i chi wneud cwyn yn y Gymraeg. Ni fydd eich cwyn yn cael ei thrin yn llai ffafriol na chwyn yn Saesneg.
Os hoffech wneud cwyn am ein cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg, ewch i’r dudalen Gwynion ar ein gwefan.
Mae croeso i chi hefyd gysylltu â Thîm y Gymraeg ar: [email protected]
Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw bryderon sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg at Gomisiynydd y Gymraeg.
Tîm y Gymraeg Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Tîm y Gymraeg yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym yn cynorthwyo’r sefydliad i weithredu’n ddwyieithog ac i gwrdd â deddfwriaeth y Gymraeg.
Mae ein gwaith yn cynnwys cefnogi adrannau i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg, cefnogi staff sydd yn dysgu neu yn datblygu eu sgiliau Cymraeg a chefnogi ein timau i sicrhau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i’r cyhoedd yng Nghymru.
Os oes cwestiynau gennych am y Gymraeg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae croeso i chi gysylltu â ni: [email protected]