Alcohol yng Nghymru (2019)
Awduron: Tîm Dadansoddol
Cyhoeddwyd ar: 7fed Ionawr 2020
Diweddariad nesaf: I’w gyhoeddi
Cysylltwch am ymholiadau neu adborth
Cyflwyniad
Mae Alcohol yng Nghymru yn broffil rhyngweithiol sy’n cynnwys trosolwg o batrwm yfed alcohol a’i effeithiau, ynghyd â’r opsiwn i archwilio data ynghylch yfed, derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau yn fanylach ar lefel byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Yn ogystal, mae map tystiolaeth yn darparu mynediad strwythuredig at ffynonellau tystiolaeth lefel uchel ynghylch camddefnyddio alcohol. Mae’r proffil wedi’i greu i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynlluniau i gyflawni’r amcanion a nodir yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyflwynir gwybodaeth ar draws cyfres o dabiau i ganiatáu ichi we-lywio i’r maes o ddiddordeb.
Archwilio Data Ymhellach
Mae’r proffil yn cynnwys y data canlynol:
- Trosolwg – yn cynnwys dangosyddion sy’n nodi cymariaethau rhyngwladol a chostau cymdeithasol ac iechyd sy’n gysylltiedig ag alcohol
- Faint a Yfir – yn cynnwys dadansoddiadau yn ôl daearyddiaeth a nodweddion unigol ar gyfer yfed uwchlaw’r canllawiau
- Derbyniadau i’r ysbyty – data a thueddiadau ar lefel awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar gyfer:
- Derbyniadau sy’n ymwneud yn benodol ag alcohol
- Derbyniadau sy’n ymwneud yn benodol ag alcohol ymhlith y rhai dan 18 oed
- Derbyniadau y gellir eu priodoli i alcohol – diffiniadau cul a rhai eang
- Marwolaethau – data a thueddiadau ar lefel awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar gyfer:
- Marwolaethau sy’n ymwneud yn benodol ag alcohol
- Marwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol
- Marwolaeth oherwydd clefyd cronig yr afu a sirosis
- Map tystiolaeth – mae’r map yn seiliedig ar ddamcaniaeth newid alcohol ac mae’n archwilio’r dystiolaeth sy’n ymwneud ag ymyriadau sy’n anelu at atal a lleihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Cysylltu
Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y proffil lles meddwl, cysylltwch â ni trwy anfon ebost.
Tabeli data
Mynediad at y data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad blynyddol hwn