Iechyd a’i benderfynyddion yng Nghymru (2018)
Awduron: Holly Walsh, James Allen, Hugo Cosh, Andrew Dring, Arthur Duncan-Jones, Rhian Hughes, Grace Jefferies, Leon May, Rhys White
Cyhoeddwyd ar: 9fed Ionawr 2018
Diweddariad nesaf: I’w gyhoeddi
Cysylltwch am ymholiadau neu adborth
Mae’r adroddiad Iechyd a’i benderfynyddion yng Nghymru yn rhoi trosolwg o iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, yn cynnwys baich clefydau. Mae’n amlinellu prif achosion marwolaeth, anabledd a salwch sy’n ffurfio’r darlun iechyd yng Nghymru. Mae’n dangos y cynnydd a wnaed, ond mae hefyd yn tynnu sylw at yr heriau sylweddol a wynebir nawr ac yn y dyfodol.
Negeseuon allweddol
Beth yw Iechyd a’i benderfynyddion yng Nghymru?
Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth lefel uchel ac enghreifftiau darluniadol sy’n ymdrin â themâu eang. Mae’n defnyddio amcangyfrifon o faich clefydau yn yr adroddiad Global Burden of Disease (2016) fel tystiolaeth gyffredin ar gyfer ffactorau iechyd a risg i gynorthwyo wrth ystyried blaenoriaethau cymharol.
Ysmygu yn y gorffennol yw’r ffactor risg sy’n dal i gyfrannu fwyaf at y baich clefydau presennol yng Nghymru. Mae canfyddiadau allweddol eraill yn nodi mai canser yw’r achos pennaf bellach dros faich clefydau yng Nghymru a’i fod yn mynd y tu hwnt i glefyd cardiofasgwlaidd yn hyn o beth. Mae’r canfyddiadau hefyd yn nodi mai anhwylderau cyhyrysgerbydol ac anhwylderau’r meddwl a chamddefnyddio sylweddau yw’r prif achosion dros fyw am flynyddoedd gydag anabledd.
Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth am benderfynyddion ehangach iechyd gan roi ffocws penodol ar blant. Mae’n cynnwys cymariaethau rhyngwladol, ac mae’n canolbwyntio ar yr hyn y mae’r gwledydd hynny sydd â’r canlyniadau gorau yn ei gyflawni. Mae hefyd yn rhoi tueddiadau’r gorffennol ac amcanestyniadau o dueddiadau’r dyfodol.
Dywedodd Dr Kirsty Little, Ymgynghorydd mewn Deallusrwydd Iechyd, ‘Rydyn ni’n gwybod bod gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio a bod disgwyl i hyn arwain at nifer cynyddol o gyflyrau sy’n gysylltiedig ag oedran, ac rydyn ni’n gwybod hefyd nad ydym yn cymryd y camau y byddem yn gobeithio amdanyn nhw o ran lleihau anghydraddoldebau. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y materion hyn ac mae’n archwilio’r ffactorau risg ynghyd â chyffredinrwydd ac amcanestyniadau o gyffredinrwydd rhai o’r problemau iechyd rydym yn eu hwynebu yma yng Nghymru. Er bod yr adroddiad wedi cael ei ddatblygu i gefnogi strategaeth hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac ein bod wedi rhyddhau fersiwn dros dro i helpu cydweithwyr ar draws y GIG, rydym yn awr yn cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru i’r cyhoedd a gobeithiwn y bydd yn offeryn gwerthfawr i gyrff cyhoeddus eraill sydd wrthi’n datblygu strategaethau a chynlluniau hirdymor tebyg ledled Cymru.
Cyffredinrwydd clefydau 2023
Yn 2023, cychwynnwyd ar raglen waith newydd gennym sy’n archwilio tueddiadau clefydau, amcanestyniadau 10 mlynedd clefydau, tueddiadau ffactorau risg, ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar draws yr ystod lawn o ymatebion iechyd y cyhoedd a’u heffaith ar y gost i’r system iechyd. Mae adroddiad ar ddiabetes ar gael hefyd.
Cysylltu
Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y proffil lles meddwl, cysylltwch â ni trwy anfon ebost.
Tabeli data
Mynediad at y data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad blynyddol hwn