Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad wythnosol ar ffliw a heintiau anadlol acíwt

Manylion:

Awduron: Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu

Cyhoeddwyd ar: 13eg Mai 2026

Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg wythnosol o weithgaredd y ffliw, RSV a COVID-19 yng Nghymru, gan gynnwys data gwyliadwriaeth, tueddiadau a chofnodion o gwmpasu brechu, gan dynnu sylw at lefelau cyfredol a newidiadau mewn heintiau anadlol.

Lefel gweithgarwch presennol Tuedd
Ffliw Allan o dymor  Yn gostwng
RSV  Lefel sylfaenol Yn gostwng
COVID-19  Lefelau isel Sefydlog yn gyffredinol 

Nid yw trothwyon cymharol ar gyfer dwysedd COVID-19 ar gael eto. 

Adroddiad wythnosol heintiau anadlol integredig

Sylwer y bydd yr adroddiad wythnosol yn symud i amserlen adrodd pythefnosol o 29 Ebrill tan fis Medi. 

Y Nifer sy’n Cael eu Brechu 

Pwyntiau allweddol yng Nghymru 

Diweddariad gwyliadwriaeth gweithgarwch ffliw 

  • Y gyfradd ymgynghoriadau â meddygon teulu ar gyfer ffliw yng Nghymru yn ystod Wythnos 17, 2026, wedi’i hadrodd drwy Gynllun Gwyliadwriaeth Heintiau Meddygon Teulu Sentinel, oedd 1.4 ymgynghoriad fesul 100,000 o boblogaeth practis. 
  • Gostyngodd y gyfradd o gymharu ag Wythnos 16, 2026 (2.0 fesul 100,000). 

Diweddariad gwyliadwriaeth feirolegol 

  • Casglwyd cyfanswm o 36 sampl gwyliadwriaeth gan gleifion a oedd yn dangos symptomau ILI (salwch tebyg i ffliw) gan feddygon teulu sentinel a fferyllfeydd cymunedol yn ystod Wythnos 17, 2026. Ni chanfuwyd unrhyw achosion o ffliw, RSV na SARS‑CoV‑2 yn yr wythnos fwyaf diweddar.
  • Yn ystod Wythnos 17, cynhaliwyd profion sgrinio anadlol amlblecs llawn ar 952 o samplau cleifion ysbyty a meddygon teulu nad ydynt yn sentinel gan Ficrobioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac o’r rhain, roedd chwech yn bositif ar gyfer y ffliw. Nodwyd nifer o achosion eraill o heintiau anadlol acíwt (gweler yr adroddiad llawn). Fel arfer, blaenoriaethir y profion hyn ar gyfer cleifion symptomatig mewn ysbytai, neu’n llai cyffredin, mewn lleoliadau cymunedol. 

Derbyniadau i’r ysbyty mewn achosion a gadarnhawyd o ffliw ac RSV 

Yn y DU ac Ewrop

I weld adroddiadau gwyliadwriaeth o wledydd eraill y DU, gweler y dolenni isod: 

Trosolwg byd-eang 

Gellir gweld diweddariadau byd-eang ar weithgarwch ffliw (Saesneg yn unig).

Data sydd ar gael i’w lawrlwytho

Archif adroddiadau

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig