Adran 16 – Beth yw fy opsiynau os oes gan fy mabi syndrom Down (trisomedd 21 neu T21), syndrom Edwards (trisomedd 18 neu T18) neu syndrom Patau (trismoedd 21 neu T21) neu newid cromosomaidd neu enetig arall a geir ar brawf mewnwthiol?
Bydd cyflwr cromosomaidd neu enetig yn cael ei ganfod mewn rhai achosion. Byddwch yn cael gwybodaeth a chymorth i’ch helpu i wneud penderfyniad am eich beichiogrwydd. Gallwch drafod y canlyniad gydag obstetregydd a bydwraig sy’n arbenigo mewn profion sgrinio cynenedigol. Byddwch hefyd yn gallu trafod y canlyniad gyda rhywun sy’n arbenigo mewn geneteg os bydd angen.
Mae canfod bod gan eich babi yn y groth gyflwr cromosomaidd neu enetig yn gallu achosi cymysgedd o emosiynau, ac mae penderfynu beth i’w wneud yn gallu bod yn anodd. Mae yna arbenigwyr sy’n gallu rhoi gwybodaeth i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud. Mae’r rhain yn cynnwys ymgynghorwyr meddygaeth y ffetws, genetegwyr a phaediatregwyr. Mae’r rhan fwyaf o fenywod eisiau ac angen rhywfaint o gymorth. Gallai hyn fod gan bartner, teulu neu ffrindiau neu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanoch. Mae’n debygol y bydd yn ddefnyddiol i chi os gall eich partner neu ffrind ddod i apwyntiadau Ysbyty gyda chi.
Bydd rhai menywod eisiau paratoi eu hunain ar gyfer yr enedigaeth gan wybod bod gan eu babi gyflwr cromosomaidd neu enetig, tra bydd eraill yn penderfynu peidio â pharhau â’r beichiogrwydd. Pa benderfyniad bynnag a wnewch, bydd y person sy’n gofalu amdanoch yn eich cefnogi ac yn cytuno ar gynllun gofal.
Byddwch yn cael amser a gwybodaeth i’ch helpu i wneud penderfyniad sy’n iawn i chi.
Pa benderfyniad bynnag a wnewch, bydd y bobl sy’n gofalu amdanoch yn parchu eich dymuniadau.