Lles Meddwl yng Nghymru (2020)
Awduron: Tîm Dadansoddol
Cyhoeddwyd ar: 5ed Ionawr 2021
Diweddariad nesaf: I’w gyhoeddi
Cysylltwch am ymholiadau neu adborth
Mae Lles Meddwl yng Nghymru wedi ei ddylunio i gefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion yn ymwneud â blaenoriaeth strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwella lles meddwl a datblygu cadernid a amlinellir yn y Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP).
Cyflwyniad
Mae proffil rhyngweithiol lles meddwl yn cyflwyno ystod o ddangosyddion ar les meddwl a sgorau lles meddwl ar gyfer oedolion a phlant oed ysgol uwchradd. Mae’r data’n deillio o arolygon yn cynnwys Arolwg Cenedlaethol Cymru, Arolwg Blynyddol y Boblogaeth a Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion.
Negeseuon allweddol
- Ymddengys bod cyfraddau’r bobl sydd yn nodi bodlonrwydd bywyd uchel, teimlad bod bywyd yn werth chweil a hapusrwydd wedi cynyddu yng Nghymru rhwng 2013 a 2018. Fodd bynnag, mae’r cyfraddau hyn yn aml yn is na’r cyfraddau yn nhair gwlad arall y DU.
- Nodwyd canrannau uwch o les cadarnhaol ymysg ymatebwyr oedd yn gyflogedig o’u cymharu â rhai di-waith.
- Nodwyd canrannau is o les meddwl uchel ymysg ymatebwyr oedd yn byw mewn llety wedi ei rentu.
- Roedd oedolion gwrywaidd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn profi lefelau isel o orbryder.
- Nododd plant oed ysgol uwchradd ym Mro Morgannwg a Gwynedd sgorau cyfartalog uchaf Graddfa Lles Meddwl Byr Warwick-Edinburgh (SWEMWBS).
- Nododd plant oed ysgol uwchradd iau, bechgyn a phlant â chyfoeth teuluol uchel les meddwl uwch. Dywedodd cyfran uwch o’r plant hyn nad oeddent yn teimlo’n unig yn ystod yr haf. Roeddent hefyd yn fwy tebygol o nodi bodlonrwydd bywyd uchel, a chymorth emosiynol teuluol digonol.
- Ni ddangosodd cymorth iechyd meddwl ysgolion unrhyw batrwm penodol yn ôl rhyw na chyfoeth teuluol, ond nid oedd dros chwarter y bobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth iechyd meddwl yn yr ysgol.
Archwilio’r data ymhellach
Gall y defnyddwyr archwilio’r data ymhellach gyda dadansoddiadau ar gael yn ôl:
- daearyddiaeth;
- nodweddion demograffig;
- amddifadedd;
- nodweddion economaidd-gymdeithasol;
- trawsdablu gyda dangosyddion eraill yn ymwneud â llesMae tueddiadau hefyd wedi eu cynnwys ar gyfer canlyniadau cwestiynau ar les personol ar gyfer gwledydd y DU.
Mae’r proffil wedi ei strwythuro gyda tabiau ar gyfer lles personol oedolion; lles personol plant; a thystiolaeth.*
Mae mwy o fanylion am bob siart ar gael trwy’r canllaw technegol integredig, y gellir ei ymestyn, islaw bob siart.
*Bydd y tab tystiolaeth yn cael ei boblogi yn nes ymlaen eleni.
Cysylltu
Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y proffil lles meddwl, cysylltwch â ni trwy anfon ebost.
Tabeli data
Mynediad at y data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad blynyddol hwn