Disgwyliad Oes a Marwolaethau yng NghymruLife (2020)
Awduron: Tîm Dadansoddol
Diweddariad nesaf: I’w gyhoeddi
Cysylltwch am ymholiadau neu adborth
Mae’r cyhoeddiad hwn yn disgrifio newidiadau mewn disgwyl oes, disgwyl oes iach a chyfraddau marwolaeth dros amser yng Nghymru.
Cyflwyniad
Mae Cymru, ynghyd â gwledydd eraill, wedi gweld arafu o ran gwelliannau mewn disgwyliad oes a marwolaethau ers tua 2011. Mae hwn yn newid amlwg i’r cynnydd cyson mewn disgwyliad oes a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn disgrifio newidiadau mewn disgwyliad oes, disgwyliad oes iach a chyfraddau marwolaeth dros amser yng Nghymru.
Mae dadansoddiadau dadelfennu disgwyliad oes hefyd yn amlygu’r grwpiau oedran ac achosion marwolaeth sydd wedi cyfrannu at y newid hwn dros amser, tra’n archwilio hefyd eu cyfraniad at y bwlch rhwng ardaloedd amddifadedd.
Dywedodd Dr Kirsty Little, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd:
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlygu newid pwysig mewn tueddiadau disgwyliad oes a marwolaethau yn y cyfnod diweddar. Mae disgwyliad oes yn arwydd pwysig o statws iechyd cyffredinol poblogaeth, gyda’r cyhoeddiad hefyd yn dangos arwyddion y gallai anghydraddoldebau iechyd fod wedi cynyddu yn ddiweddar hefyd ac mae hyn yn peri pryder.
“Mae nifer o ffactorau pwysig yn debygol o fod ar waith a bydd esbonio’r tueddiadau diweddar yn gymhleth. Gallai’r cyfnod o gyni er 2010/11 fod yn gysylltiedig, ac fel yr amlygodd adolygiad diweddar Syr Michael Marmot, mae’r cysylltiad rhwng cyni ac iechyd sy’n gwaethygu ac anghydraddoldebau iechyd yn “gwbl gredadwy”. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r DU a phartneriaid rhyngwladol i fonitro’r tueddiadau parhaus ac i archwilio ymhellach ac egluro ffactorau a allai fod yn ysgogi’r newidiadau yr ydym wedi eu hamlygu.”
Bydd y cyhoeddiad hwn yn cael ei ddiweddaru wrth i’r data newydd ddod i’r amlwg. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd bydd y dadansoddiadau’n cael eu diweddaru.
Dyma rai o’r prif ganlyniadau allweddol
- Mae disgwyliad oes gwrywaidd a benywaidd ond wedi cynyddu 0.2 o flynyddoedd a 0.1 o flynyddoedd yn y drefn honno er 2010-12. Cyn hyn, y cynnydd oedd 2.6 o flynyddoedd a 2 flynedd yn y drefn honno rhwng 2001-03 a 2010-12.
- Gostyngodd y gyfradd marwolaeth pob achos ar gyfer Cymru bron 20% rhwng 2002 a 2011, ond ni chafwyd lawer o newid er 2011.
- Mae’r bwlch mewn cyfraddau marwolaeth rhwng cwintelau amddifadedd wedi ehangu ychydig yn y blynyddoedd diweddar.
- Mae dadansoddiadau dadelfennu disgwyliad oes yn dangos, ar gyfer gwrywod a benywod, mai’r rheiny oedd tua 60-84 oed oedd prif gyfranwyr tuag at y cynnydd mewn disgwyliad oes ond mae’r gwelliannau hyn wedi arafu’n sylweddol rhwng y cyfnodau a astudiwyd.
- Yn yr un modd, mae gwelliannau mewn cyfraddau marwolaeth yn sgil clefyd cylchrediad y gwaed wedi arafu, gan haneru ei gyfraniad tuag at y cynnydd mewn disgwyliad oes rhwng y cyfnodau a astudiwyd.
- Mae cynnydd mewn marwolaethau yn sgil clefydau anadlol a dementia a chlefyd Alzheimer wedi cyfrannu’n negyddol at welliant mewn disgwyliad oes.
Cysylltu
Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y proffil lles meddwl, cysylltwch â ni trwy anfon ebost.
Tabeli data
Mynediad at y data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad blynyddol hwn