Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Mae marwolaeth cyn pryd yn rhoi cyfrif am ddwywaith gymaint o flynyddoedd o fywyd a gollir yn y rhan fwyaf o ardaloedd difreintiedig yn 2016 i 2018

Manylion:

Awduron: Tîm Dadansoddol

Cyhoeddwyd ar: 25ain Mai 2022

Diweddariad nesaf: I’w gyhoeddi

Cysylltwch am ymholiadau neu adborth 

Mae’r cyhoeddiad hwn yn edrych ar farwolaeth gynharedig, blynyddoedd o fywyd a gollwyd a sut maen nhw’n gysylltiedig â thlodi.

Cyflwyniad

Ffigur 1: Ystadegau cyffredinol ar farwolaeth gynamserol, Cymru, 2016-18

Ystadegau cyffredinol ar farwolaeth gynamserol, Cymru, 2016-18

Mae dros 11,000 o farwolaethau cyn pryd bob blwyddyn yng Nghymru rhwng 2016-2018. Mae hyn yn gyfwerth â bron 150,000 o flynyddoedd o fywyd a gollir yn flynyddol oherwydd marwolaeth cyn pryd, y mae 54,000 ohonynt yn flynyddoedd gormodol o fywyd a gollir. Mae nifer y blynyddoedd o fywyd a gollir yn y pumed o ardaloedd mwyaf difreintiedig dros ddwywaith hynny yn y pumed o ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae’r blynyddoedd o fywyd a gollir (YLL) yn cyfrifo nifer y blynyddoedd a gollir pan fydd person yn marw cyn pryd (o dan 75 oed) o unrhyw achos. Gyda YLL, mae nifer y marwolaethau ac oed y person pan fydd yn marw yn cael eu hystyried ac felly’n rhoi mwy o bwysau ar farwolaeth yn 5 oed o’i gymharu â marwolaeth yn 70 oed. O ganlyniad, mae YLL yn fesur o farwolaeth sydd yn ystyried marwolaethau cyn pryd sydd yn gallu llywio blaenoriaethau iechyd y cyhoedd er mwyn helpu i dargedu ymyriadau i atal marwolaethau o’r fath.

Ffigur 2: Marwolaeth cyn pryd, cyfrif a chyfradd fesul 100,000, MALlC 2019, pob person o dan 75 oed, Cymru, 2016-2018

Wedi’i gynhyrchu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o PHM & MYE (ONS) & WIMD 2019 (WG)

Marwolaeth cyn pryd, cyfrif a chyfradd fesul 100,000, MALlC 2019, pob person o dan 75 oed, Cymru, 
2016-2018

Ffigur 3: Blynyddoedd o fywyd a gollir cyn pryd (YLL), cyfrif a chyfradd fras fesul 100,000*, MALlC 2019, pob person o dan 75 oed, Cymru, 2016-2018

Wedi’i gynhyrchu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o PHM & MYE (ONS) & WIMD 2019 (WG)

Blynyddoedd o fywyd a gollir cyn pryd (YLL), cyfrif a chyfradd fras fesul  100,000*, MALlC 2019, pob person o dan 75 oed, Cymru, 2016-2018

Mae’r siartiau uchod yn dangos graddfa lawn marwolaeth cyn pryd a YLL ym mhob pumed amddifadedd. Maent wedi eu rhannu yn ôl lliw i ddangos y gyfran y byddem yn disgwyl ei gweld ym mhob pumed pe byddai’r cyfraddau marwolaeth yr un peth ag yn y pumed lleiaf difreintiedig a’r swm sydd yn mynd y tu hwnt i hynny. Gyda phob cynnydd yn lefel yr amddifadedd, mae’r marwolaethau cyn pryd a’r YLL hefyd yn cynyddu. Yn ogystal, pan fydd cyfraddau marwolaeth y lleiaf difreintiedig yn cael eu cymhwyso ar draws pob pumed amddifadedd, mae’r gormodol hefyd yn cynyddu yn unol ag amddifadedd.  Felly, mae marwolaeth cyn pryd a YLL tua dwbl ffigur y pumed lleiaf difreintiedig yn y pumed mwyaf difreintiedig.

Mae’r gwahaniaethau mawr mewn cyfraddau marwolaeth cyn pryd a YLL rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn debygol o fod yn ddylanwad y penderfynyddion cymdeithasol iechyd (SDOH). Mae’r SDOH yn gymhleth ac yn arwain at anghydraddoldebau mewn iechyd ar draws poblogaethau. Maent yn cynnwys ffactorau economaidd-gymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol; yn ogystal a rhwydweithiau cymdeithasol a chymunedol. Er bod llawer o ffactorau yn cyfrannu at iechyd, mae’r rhan fwyaf y tu hwnt i reolaeth systemau gofal iechyd fel cyfleoedd cyflogaeth ac addysg ac ansawdd tai. Mae llawer o’r dylanwadau hyn hefyd y tu hwnt i reolaeth unigolyn, er eu bod yn dal i gyfrannu at iechyd unigolyn ac yn effeithio ar y gallu i fyw bywyd iach.    

Mae’n hysbys bod nifer yr achosion o ffactorau risg ymddygiadol, e.e. ysmygu a maeth gwael, yn uwch ymhlith y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ac mae hyn yn cyfrannu at ganlyniadau iechyd sy’n gwaethygu. Yn ogystal, mae’r rheiny yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn wynebu mwy o rwystrau yn cael mynediad at ofal iechyd; materion fel llai o argaeledd trafnidiaeth neu lythrennedd iechyd gwael yn arwain at ansicrwydd ynghylch pryd i gael cyngor meddygol. Mae hyn yn arwain at y rheiny mewn ardaloedd difreintiedig i fod â mwy o siawns o gael diagnosis yn hwyrach pan allai clefyd y gellir ei drin fod wedi datblygu ymhellach a’u bod yn colli eu bywyd yn gynnar (GIG Lloegr, 2018).

Mae marwolaeth yn ystod plentyndod yn cyfrannu’n fwy at YLL oherwydd y nifer fwy o flynyddoedd y gallent fod wedi byw. Gan fod plant o dan 5 oed sydd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig dros ddwywaith yn fwy tebygol o farw cyn pryd na phlentyn o’r un oed o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, bydd mwy o gyfraniad at YLL mewn ardaloedd difreintiedig (Cronfa Ddata Genedlaethol Marwolaethau Plant (Lloegr), 2021).

Mae anghydraddoldebau iechyd mawr a pharhaus yng Nghymru sydd yn arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth a disgwyliad oes is yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedigMae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i leihau anghydraddoldebau iechyd gyda’r strategaeth hirdymor yn canolbwyntio ar y ffordd y gallwn gael yr effaith fwyaf posibl yn gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch blaenoriaethau Iechyd y Cyhoedd Cymru.

Tabeli data

Mynediad at y data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad blynyddol hwn