Neidio i'r cynnwys

Taflenni i’w trafod gyda chleifion: Taflen UTI – Wedi’u cyfuno ar gyfer oedolion

Heintiau yn y llwybr wrinol (UTI): Taflen i oedolion.

Beth yw haint wrinol?

Bydd rhywun yn cael haint yn y llwybr wrinol (UTI) pan fydd bacteria yn unrhyw ran o’r system wrin yn achosi symptomau. Fel arfer, byddwch yn cael diagnosis yn seiliedig ar eich symptomau. Dim ond ar gyfer menywod dan 65 oed heb gathetr y bydd trochbren (dipstick) wrin yn cael ei ddefnyddio.