Neidio i'r cynnwys

Yr Athro Jim McManus

Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Lles

Yr Athro Jim McManus

Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Lles

Ymunodd Jim ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2023 ac mae’n goruchwylio rhaglenni ar draws Penderfynyddion Ehangach, gweithio mewn partneriaeth, Gofal Sylfaenol, Gwella Iechyd, Iechyd Deintyddol y Cyhoedd, Iechyd Meddwl a Llesiant, Diabetes a Gofal Iechyd, Iechyd y Cyhoedd. Mae Jim yn Seicolegydd Siartredig, yn Wyddonydd Siartredig ac yn Gymrawd Cymdeithas Seicolegol Prydain yn ogystal â bod yn arbenigwr Iechyd y Cyhoedd cofrestredig ac yn Gymrawd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd. Roedd ganddo Gymrodoriaeth Cenhedlaeth Q Y Sefydliad Iechyd ac ymgymerodd â chymhwyster arweinyddiaeth ôl-raddedig yn Ysgol Fusnes Ashridge Hult. Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd Jim yn Gyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Swydd Hertford ac yn Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y DU, a chyn hynny roedd yn Gyd-gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Birmingham. Mae wedi gweithio ar ofal sylfaenol, gofal cardiaidd a strôc, iechyd meddwl y cyhoedd, cyffuriau ac alcohol, HIV ac iechyd rhywiol. Bu’n arweinydd cenedlaethol Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd (ADPH) ar gyffuriau ac alcohol, iechyd meddwl a hunanladdiad am dros bum mlynedd ac mae wedi gwasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Cynghori Rhaglen Iechyd y Cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd. Mae Jim yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Swydd Hertford ac mae’n Uwch Ddarlith Gwadd yn Is-adran Gwyddorau Iechyd y Boblogaeth ym Mhrifysgol Bryste.