Neil Lewis
Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol
Neil Lewis
Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol
Mae Neil yn Gymrawd Siartredig y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (FCIPD), sydd wedi gweithio yn y sector cyhoeddus ers 24 mlynedd gan gynnwys yn y meysydd plismona a Llywodraeth Leol. Mae'n teimlo’n angerddol ynglŷn â gwneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae gan Neil radd mewn Astudiaethau Busnes ac MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol o Brifysgol Morgannwg ac mae ganddo brofiad sylweddol ym mhob maes ymarfer Adnoddau Dynol a Datblygu. Cyn i Neil gael ei benodi’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Datblygu Sefydliadol a Phobl yn 2019, treuliodd y pedair blynedd flaenorol gyda Heddlu Gwent. Ers mis Awst 2020 mae Neil wedi bod yn Gyfarwyddwr Dros Dro Datblygu Sefydliadol a Phobl. Ym mis Ebrill 2021 penodwyd Neil yn Gyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol.