Yr Athro Fu-Meng Khaw
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol
Yr Athro Fu-Meng Khaw
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio a Chyfarwyddwr Meddygol. Ymunodd Meng ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2021 ac mae’n gyfrifol am oruchwyliaeth ar gyfer darparu gwasanaethau sgrinio, microbioleg a diogelu iechyd yn ogystal â goruchwyliaeth broffesiynol ar gyfer meddygon ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus. Mae'n llawfeddyg cymwys ac yn arbenigwr ym maes iechyd y cyhoedd. Mae wedi gweithio fel Ymgynghorydd mewn Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy yn yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, fel Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd a benodwyd ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol North of Tyne a Chynghorau Dinas North Tyneside a Newcastle, ac yn fwyaf diweddar, fel Cyfarwyddwr Canolfan Dwyrain Canolbarth Lloegr yn Public Health England. Meng yw Cadeirydd yr Arholwyr Aelodaeth Derfynol ar gyfer Cyfadran Iechyd y Cyhoedd ac mae ganddo Gymrodoriaeth Anrhydeddus gyda Sefydliad Arweinyddiaeth Birmingham ac mae’n Athro Cyswllt Anrhydeddus gyda Phrifysgol Caerlŷr.