Claire Birchall
Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Llywodraethu Integredig
Claire Birchall
Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Llywodraethu Integredig
Penodwyd Claire i rôl Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Dros Dro yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Medi 2023 ac fe gafodd ei phenodi’n barhaol yn Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Llywodraethu ym mis Awst 2024. Mae hon yn rôl arweinyddiaeth hollbwysig sy’n gyfrifol am arwain yn strategol y proffesiynau ar draws y sefydliad a chefnogi a dylanwadu ar yr agenda iechyd y cyhoedd ar gyfer poblogaeth Cymru. Ymunodd Claire o Weithrediaeth y GIG lle bu’n arwain Rhwydwaith Canser Cymru a hi hefyd oedd y Nyrs Arweiniol Broffesiynol ar gyfer Cydweithrediaeth y GIG. Mae Claire wedi gweithio ym maes gofal iechyd am fwy na 34 mlynedd a graddiodd o Brifysgolion Nottingham ac Abertawe. Mae Claire wedi gweithio yng Nghymru drwy gydol ei gyrfa gan ymgymryd â swyddi nyrsio arbenigol, uwch nyrsio, arweinyddiaeth, rheolaeth gyffredinol a chyfarwyddwr mewn tri o’r Byrddau Iechyd mwyaf yng Nghymru, a oedd yn cynnwys swyddi arweinyddiaeth allweddol ac Aur yn ystod COVID. Symudodd Claire i Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi arweinyddiaeth y Weledigaeth a’r Strategaeth Hirdymor ar gyfer iechyd y cyhoedd a’r boblogaeth yng Nghymru, ar adeg o her a chaledi i’n poblogaeth. Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn y ddarpariaeth iechyd eilaidd a thrydyddol, mae’n awyddus i allu dylanwadu ar yr agenda atal, hybu iechyd ac ymyrraeth gynnar, gan ganolbwyntio ar y newidiadau hirdymor hollbwysig hynny a fydd yn dylanwadu ar iechyd a llesiant yn awr, ac ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Mae gan Claire ddiddordeb arbennig mewn arweinyddiaeth gefnogol a thosturiol, a’r cyfle y mae’n ei gynnig i’n cydweithwyr, ein heffeithiolrwydd, a’r boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu. Yn hyrwyddwr allweddol dros degwch a chyfiawnder, mae’n anrhydedd i Claire arwain ei phroffesiwn ei hun yn yr agenda heriol hon. Mae Claire yn Nyrs Gofrestredig falch ac yn disgrifio ei hun fel un “mor angerddol ac ymroddedig i ofal, canlyniadau a phrofiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn â’r diwrnod y dechreuais fy hyfforddiant nyrsio.”