Neidio i'r cynnwys

Dr Sumina Azam

Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisïau ac Iechyd Ryngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd

Dr Sumina Azam

Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisïau ac Iechyd Ryngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd

Mae Sumina yn darparu arweinyddiaeth ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar 'Fuddsoddi mewn Iechyd a Llesiant'. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn cefnogi datblygu polisïau ac eirioli dros bolisïau i wella iechyd a llesiant a lleihau annhegwch yng Nghymru ac yn fyd-eang trwy ddatblygu, casglu a rhannu gwybodaeth ac offer ar sut i fuddsoddi mewn gwell iechyd, lleihau annhegwch ac adeiladu cymunedau cryfach a mwy gwydn yng Nghymru a ledled y byd. Mae gan y Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol bortffolio eang o waith gan gynnwys iechyd rhyngwladol, polisi iechyd y cyhoedd, economeg a gwerth iechyd y cyhoedd, gwyddor ymddygiad, iechyd a chynaliadwyedd, asesiad o effaith ar iechyd, ymchwil iechyd cyhoeddus, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac atal trais. Cyn ei rôl bresennol, Sumina oedd Arweinydd Polisi a Dirprwy Gyfarwyddwr yn y Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn flaenorol, mae wedi gweithio fel Ymgynghorydd mewn Iechyd y Cyhoedd a Chyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Dros Dro yn Nhîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Powys, Cofrestrydd Arbenigol mewn Iechyd y Cyhoedd yn Nwyrain Canolbarth Lloegr ac mae wedi hyfforddi mewn meddygaeth gyffredinol. Meysydd o ddiddordeb Sumina yw mynd i'r afael ag annhegwch iechyd drwy ysgogiadau polisi, datblygu cynaliadwy, a phenderfynyddion iechyd fel tai a gweithio mewn partneriaeth ar draws sectorau. Ar hyn o bryd mae'n aelod o'r Bwrdd ac yn Is-lywydd EuroHealthNet.