Neidio i'r cynnwys

Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol canllawiau ar gyfer yr offeryn hunanwerthuso

Mae offeryn hunanwerthusiad wedi’i ddatblygu i helpu ysgolion i feddwl am eu hysgol a ble maen nhw arni ar hyn o bryd yn erbyn ystod o gamau gweithredu sy’n gyson â dull ysgol gyfan cynhwysfawr ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Bwriad y canllawiau hyn yw cynorthwyo ysgolion i gynnal yr hunanwerthusiad hwn ac i gynllunio gwelliant.