Neidio i'r cynnwys

Dr Tracey Cooper OBE

Prif Weithredwr

Dr Tracey Cooper OBE

Prif Weithredwr

Tracey yw Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru. Pwrpas y sefydliad yw amddiffyn a gwella iechyd a lles y genedl trwy ystod eang o swyddogaethau. Mae'r rhain yn cynnwys darparu rhaglenni sgrinio cenedlaethol, diogelu iechyd a gwasanaethau microbioleg; cynghori'r llywodraeth ar bolisi a deddfwriaeth iechyd cyhoeddus; datblygu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chyflwyno rhaglenni gwella iechyd; ysgogi iechyd y boblogaeth sy'n seiliedig ar ddata a chyflwyno cefnogaeth gwella gofal iechyd. Mae'r sefydliad hefyd yn Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant. Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Tracey oedd Prif Weithredwr cyntaf yr Awdurdod Gwybodaeth ac Ansawdd Iechyd (HIQA) yng Ngweriniaeth Iwerddon, sef rheoleiddiwr iechyd a gofal cymdeithasol y wlad. Cyn ei rolau mwy diweddar, roedd ei gyrfa feddygol ym maes meddygaeth frys, gwasanaethau gofal brys a diwygio'r system iechyd. Mae gan Tracey brofiad sylweddol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn iechyd cyhoeddus, rheoleiddio iechyd a gofal cymdeithasol a diwygio systemau iechyd. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda phartneriaid ar draws ffiniau sefydliadol i ddatblygu perthnasoedd cryfion, effeithiol a phwrpasol i drawsnewid deilliannau ar gyfer y boblogaeth. Mae hi hefyd yn gweithio'n agos gyda Gweinidogion ac uwch swyddogion ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ar draws ehangder y Llywodraeth ac wedi ymwneud yn weithredol ag iechyd byd-eang dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae hyn wedi cynnwys gweithio'n agos gyda WHO, Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd y Cyhoedd Cenedlaethol (IANPHI), Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad, y Cyngor Rhyngweithredu, fel Llywydd y Gymdeithas Ryngwladol Ansawdd mewn Gofal Iechyd a chynghori Llywodraethau mewn ystod o wledydd. Daeth Tracey yn aelod o Fwrdd Gweithredol IANPHI ym mis Ionawr 2024.