Amdanom ni

Rydym ni’n Iechyd Cyhoeddus Cymru – y sefydliad iechyd y cyhoedd cenedlaethol i Gymru. Ein nod yw ‘gweithio gyda’n gilydd ar gyfer Cymru iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hir ac iachach. Gyda’n partneriaid, rydym yn anelu at gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a lles, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac i genedlaethau’r dyfodol.

Gyda’n gilydd, mae ein timau’n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, ac i ddarparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol a gwybodaeth arbenigol iechyd y cyhoedd. Rydym yn brif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

Gweithio gyda’n gilydd ar gyfer Cymru iachach

Bwrdd a’r weithrediaeth