Camau i’w cymryd os oes gan eich plentyn lefel plwm uchel yn y gwaed
Os bydd rhywun yn dod i gysylltiad â phlwm gall niweidio ei iechyd. Gall hyn ddigwydd os ydynt wedi dod i gysylltiad â llawer o blwm neu ychydig bach dros gyfnod hir. Er na allwch chi weld yr effeithiau hyn bob amser, rydyn ni’n gwybod y gall plwm gael effaith ar b’un a yw plant yn tyfu ac yn datblygu’n iach.
Bydd eich meddyg yn siarad â chi am pam y cymerwyd y prawf hwn, beth mae’r canlyniad yn ei olygu a phryderon iechyd a allai fod gennych.
Dilynwch y camau a amlinellir isod i amddiffyn eich plentyn ac aelodau eraill o’r teulu rhag dod i gysylltiad â phlwm
Efallai y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cysylltu i ddeall rhagor am sut y gallai eich plentyn fod wedi bod mewn cysylltiad â phlwm.
Sut gallai fy mhlentyn fod wedi dod i gysylltiad â phlwm?
Gall rhywun gael plwm i mewn i’w gorff os ydyn nhw’n ei fwyta (ei lyfu / ei gyffwrdd â’i geg / ei gnoi), ei yfed neu ei anadlu i mewn. Yn y DU, mae’n bosibl bod plentyn wedi dod i gysylltiad â phlwm drwy’r canlynol:
- Rhoi pethau sy’n cynnwys plwm yn ei geg
- Eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd fel pridd, llwch, hen deganau neu wrthrychau wedi’u peintio, neu bethau sydd wedi’u gwneud dramor ac nad ydynt yn bodloni safonau’r DU neu’r UE
- Meddyginiaethau traddodiadol, sbeisys neu fwyd, sydd wedi’u dwyn o wlad arall; neu fwyd sydd wedi’i goginio mewn potiau sy’n cynnwys plwm.
- Hen bibellau neu baent
- Yfed dŵr tap sydd wedi dod trwy bibell blwm neu lle defnyddiwyd sodro plwm – dim ond mewn cartrefi hŷn y mae hyn yn digwydd fel arfer.
- Yn y gorffennol defnyddiwyd plwm yn rheolaidd i wneud paent. Gall paent tolciog ac addurno ryddhau hen baent neu lwch paent yn y cartref, y gallai plentyn ei gael yn ei geg neu ei anadlu i mewn.
- Bod o gwmpas plwm a ddygwyd i’r cartref trwy waith neu hobïau
- Gall plant ddod i gysylltiad â gwrthrychau, llwch neu fwg sy’n cynnwys plwm sy’n gysylltiedig â gwaith neu hobïau oedolyn (megis ailgylchu batris, plymio, toi, saethu, gwneud a defnyddio pwysau pysgota a modelau cast, neu wneud gwydr lliw).
Beth alla i ei wneud i helpu i atal fy mhlentyn rhag dod i gysylltiad â phlwm?
Mae plant sy’n rhoi eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd yn eu ceg yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â phlwm. Dyma rai camau y gallwch eu cymryd i helpu eich plentyn i leihau hyn:
| Atal ymddygiadau niweidiol |
• Rhwystrwch eich plentyn yn ofalus rhag rhoi eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd (fel pridd) yn ei geg. • Ceisiwch atal eich plentyn rhag pigo neu gnoi ardaloedd neu bethau sydd wedi’u paentio. •Cadwch eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd y mae eich plentyn yn aml yn ceisio eu rhoi yn ei geg allan o’i olwg a’i gyrraedd (e.e. mewn cwpwrdd dan glo). • Cadwch y lloriau’n glir o eitemau y gallai eich plentyn eu rhoi yn ei geg o’r llawr. |
| Cefnogwch ymddygiadau gwell |
• Dysgwch eich plentyn y gwahaniaeth rhwng bwyd ac eitemau nad ydynt yn fwyd (e.e. rhoi gwobrau iddo pan fydd yn dewis bwyd yn hytrach nag eitemau nad ydynt yn fwyd; ei helpu i ddidoli bwyd ac eitemau nad ydynt yn fwyd i wahanol flychau) • Gwobrwywch eich plentyn am beidio â bwyta eitemau nad ydynt yn fwyd am gyfnod penodol o amser • Gwobrwywch eich plentyn pan fydd yn gofyn am ddewisiadau amgen diogel yn lle eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd. • Dysgwch eich plentyn ble gall ddod o hyd i ddewisiadau amgen diogel yn lle eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd • Rhowch deganau cnoi neu deganau synhwyraidd diogel i’ch plentyn (gwnewch nhw wrth law yn rhwydd, neu cyfnewidiwch opsiynau anniogel am y rhain pan welwch eich plentyn gyda nhw). • Golchwch ddwylo’ch plentyn gyda dŵr a sebon yn rheolaidd. • Gwnewch fyrbrydau sy’n teimlo’n debyg i’r eitemau anniogel nad ydynt yn fwyd y mae eich plentyn yn eu hoffi sydd ar gael yn rheolaidd.. |
Gall y pethau rydyn ni’n eu dwyn i’n cartrefi arwain at blant yn dod i gysylltiad â phlwm. Dyma rai newidiadau y gallwch eu gwneud yn ac o amgylch eich cartref i leihau cyswllt eich plentyn â phlwm:
| Teganau |
Gwiriwch fod teganau eich plentyn yn ddiogel – chwiliwch am y marciau diogelwch hyn: ![]() ![]() |
| Dŵr |
Defnyddiwch ddŵr o’r tap oer yn unig ar gyfer yfed, coginio a gwneud fformiwla babi. Os hoffech i’ch cyflenwad dŵr gael ei brofi am blwm, gallwch siarad â’ch cwmni |
| Paratoi bwyd a meddyginiaeth | Prynwch feddyginiaethau, sbeisys, bwydydd neu offer coginio gan gyflenwyr yn y DU sy’n gwerthu pethau sy’n bodloni safonau diogelwch y DU yn unig. |
| Gwaith DIY ac Addurno | Byddwch yn ofalus os ydych chi’n gwneud gwaith DIY neu’n addurno. Os yw’ch plentyn yn pigo ar waith paent, a bod y tŷ wedi’i adeiladu cyn y 1960au, mae’n bosibl y byddant yn bwyta naddion o baent plwm o haenau isaf o baent nad ydynt wedi’u tynnu’n llwyr. Gall llwch a grëir wrth dynnu paent plwm ryddhau rhagor o blwm. Dim ond gweithiwr proffesiynol sy’n arbenigo mewn profi am baent plwm y dylai ei dynnu oddi yno’n ddiogel. Mae cwmnïau ledled Cymru yn cynnig y gwasanaeth hwn. Y dulliau lliniaru tymor byr gorau yw atal mynediad i’r ystafell, blocio’r ardal baent gyda dodrefn neu gorchuddio gyda phersbecs neu blastig. Y dulliau lliniaru tymor byr gorau yw atal mynediad i’r ystafell, blocio’r ardal baent gyda dodrefn neu gorchuddio gyda phersbecs neu blastig. |
| Gwaith a hobïau | Os ydych chi’n gweithio gyda phlwm neu’n ei ddefnyddio yn eich hobïau, gwnewch yn siŵr nad yw’ch teulu’n dod i gysylltiad â phlwm, mygdarth plwm na llwch. Dilynwch gyngor iechyd a diogelwch (cliciwch yma (Saesneg yn unig) am gamau ymarferol y gallwch eu cymryd). |
Bydd dilyn y camau hyn yn helpu i amddiffyn eich plentyn ac aelodau’r teulu rhag dod i gysylltiad â phlwm.

