Neidio i'r cynnwys

Cyfarfod Bwrdd 30 Gorffennaf 2020

Gwybodaeth am y cyfarfod

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn cynnal cymaint o’i fusnes â phosibl mewn sesiynau y mae croeso i aelodau’r cyhoedd eu mynychu a’u harsylwi fel rheol.  Fodd bynnag, yng ngoleuni’r cyngor a’r arweiniad cyfredol mewn perthynas â Coronafeirws (COVID-19) penderfynom ym mis Mawrth 2020 er lles gorau diogelu’r cyhoedd, ein staff ac aelodau’r Bwrdd, na fyddem bellach yn ymgynnull mewn grwpiau er mwyn cynnal cyfarfodydd. Ers hynny, rydym wedi bod yn cynnal cyfarfodydd Bwrdd rhithwir, ac nid ydym wedi gallu eu ffrydio’n fyw.  

Rydym yn falch o gynghori ein bod yn darlledu ein cyfarfod Bwrdd ar 30 Gorffennaf i roi’r cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i’r rhyngrwyd arsylwi mewn amser real.