Poster cymysg 3 mewn 1 a MenACWY
Mae’r poster dwyieithog hwn yn darparu gwybodaeth allweddol i bobl ifanc am y brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 i bobl ifanc yn eu harddegau (tetanws, difftheria a pholio) a’r brechlyn MenACWY. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd amddiffyn rhag salwch difrifol megis llid yr ymennydd a sepsis, ac yn annog pobl ifanc i gael eu brechu fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio ysgolion arferol.