Hyfforddiant MECC
Gall codi cwestiynau am ymddygiadau iechyd fod yn heriol ac nid yw pawb yn teimlo’n hyderus i wneud hynny. Mae defnyddio dull MECC yn gofyn am amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth er mwyn helpu pobl i:
- Deimlo’n hyderus i gynorthwyo unigolion
- Arwain sgyrsiau am iechyd a lles
Mae hyfforddiant ac adnoddau yn elfen allweddol o raglen MECC. Mae llwyddiant MECC yn dibynnu ar:
- Gynnig E-Ddysgu Cyffredin Lefel 1 a 2 MECC cenedlaethol sydd ar gael ledled Cymru
- Cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael ar lefel leol a rhanbarthol
- Cynnal cymhwysedd a hyder staff i gyflwyno negeseuon allweddol
- Gwreiddio MECC mewn ymarfer bob dydd
Hefyd, mae’n bwysig bod staff a gwirfoddolwyr yn gallu cyfeirio unigolion at wasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol priodol.
E-ddysgu MECC
Yma, cewch wybodaeth am sut i gael at fodiwlau e-ddysgu MECC. Bydd y modiwlau hyn yn eich helpu i ennill y wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i gael sgyrsiau effeithiol a all gefnogi newid cadarnhaol mewn ymddygiad iechyd.
Pa e-ddysgu sydd ar gael?
- Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) Lefel 1: Cyffredinol
- Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) Lefel 2: Cyffredinol
- Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) Lefel 1: Sgyrsiau Pwysau Iach
- Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) Lefel 2: Sgyrsiau Pwysau Iach
- Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) Lefel 2: Ymyriadau Byr ar Alcohol (ABI)
Sut i gael at e-ddysgu MECC
- Os ydych yn cael eich cyflogi gan y GIG ac mae gennych gyfrif ESR, gallwch gael mynediad at gyrsiau Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) drwy ESR.
- Os nad ydych yn cael eich cyflogi gan y GIG, neu os ydych yn cael eich cyflogi gan y GIG ond nad oes gennych gyfrif ESR, gallwch gael mynediad at gyrsiau MECC drwy Learning@Wales. Bydd angen i chi gofrestru am gyfrif os nad oes gennych un eisoes.