Neidio i'r cynnwys

Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC)

Beth yw MECC?

Mae MECC, sef ‘Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif’, yn ymagwedd at newid ymddygiad sy’n defnyddio’r miliynau o ryngweithiadau bob dydd a gaiff sefydliadau ac unigolion gyda phobl eraill i’w cynorthwyo i wneud newidiadau cadarnhaol i’w hiechyd a’u lles corfforol a meddyliol.

Mae ymagwedd MECC yn cydnabod bod gan unigolion ar draws iechyd, awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol filoedd o gysylltiadau bob dydd ac maent mewn sefyllfa ddelfrydol i hyrwyddo iechyd a lles.

Mae MECC yn canolbwyntio ar yr ymddygiadau allweddol canlynol sydd, wrth fynd i’r afael â nhw, yn gallu gwneud y gwelliant mwyaf i iechyd unigolyn:

  • Rhoi’r gorau i smygu
  • Yfed alcohol dim ond o fewn y terfynau a argymhellir
  • Bwyta’n iach
  • Bod yn actif yn gorfforol
  • Gwella iechyd a lles meddyliol
  • Cael yr imiwneiddiadau a’r brechiadau diweddaraf
  • Derbyn cynnig sgrinio pan fydd unigolyn yn gymwys

Beth mae MECC yn ei olygu:

I sefydliadau

Darparu staff a gwirfoddolwyr â’r arweinyddiaeth, yr hyfforddiant a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt i gyflwyno ymagwedd MECC yn effeithiol.

I staff a gwirfoddolwyr

Meddu ar y cymhwysedd a’r hyder i gyflwyno negeseuon iechyd, i helpu annog pobl i newid eu hymddygiad ac i’w cyfeirio at wasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n gallu eu cefnogi.

I unigolion

Ceisio cymorth a gweithredu er mwyn gwella’u hiechyd a’u lles eu hunain.

Beth nad yw MECC

Nid yw MECC yn gwneud y canlynol:

  • ychwanegu tasg arall at ddiwrnodau gwaith sy’n brysur yn barod
  • dod yn arbenigwyr ar ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd
  • bod yn gwnselwyr neu ddarparu cymorth parhaus i unigolion penodol
  • dweud wrth bobl beth i’w wneud a sut i fyw eu bywyd.

Beth yw buddion MECC?

Mae buddion ynghlwm wrth roi ymagwedd MECC ar waith ar draws amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys lle rydym ni’n cael ein geni a lle rydym ni’n tyfu i fyny, yn byw ac yn heneiddio. Trwy ddefnyddio rhyngweithiadau cyffredin i gynnal sgyrsiau am ymddygiadau iechyd, gall ymagwedd MECC effeithio’n gadarnhaol ar unigolion, gweithwyr proffesiynol, sefydliadau a chymunedau.

Buddion sefydliadol

  • Mae ymagwedd MECC yn helpu i gyflawni cyfrifoldebau am wella iechyd a lles y boblogaeth.
  • Mae ymagwedd MECC yn cefnogi datblygiad staff trwy hybu ymwybyddiaeth, sgiliau, hyder a chymhelliant.
  • Gall ymagwedd MECC gael ei hintegreiddio i fentrau presennol ar gyfer gwella iechyd neu’r gweithlu.

Buddion i’r economi iechyd leol ac i’r gymuned

  • Mae’n gwella mynediad at gyngor ar ymddygiad iach.
  • Gall leihau salwch ac arbed costau ar draws y system iechyd leol.
  • Mae’n annog ymgysylltu a chydweithredu cymunedol.

Buddion i staff a gwirfoddolwyr

  • Mae’n grymuso staff a gwirfoddolwyr i rannu negeseuon am ymddygiad iechyd yn hyderus ac fel mater o drefn.
  • Mae’n galluogi staff a gwirfoddolwyr i gyfeirio pobl at wasanaethau cymorth lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.

Buddion cenedlaethol a buddion i’r boblogaeth

  • Mae’n defnyddio adnoddau presennol yn well i wella iechyd cyhoeddus.
  • Mae’n cynnig potensial i gyfrannu at leihau anghydraddoldebau iechyd trwy gefnogi newid mewn ymddygiad.
  • Mae’n cyrraedd pobl na fyddent fel arall yn ceisio cyngor neu arweiniad ar iechyd.

Buddion unigol

Ar gyfer unigolion, gall dull MECC gynorthwyo pobl i weithredu er mwyn gwella’u hiechyd a’u lles eu hunain. Mae hyn yn cynnwys bwyta’n iach, bod yn actif yn gorfforol, yfed alcohol o fewn y terfynau a argymhellir yn unig, rhoi’r gorau i smygu, gwella iechyd a lles meddyliol, derbyn cynnig sgrinio pan fydd unigolyn yn gymwys a chael yr imiwneiddiadau a’r brechiadau diweddaraf.

Cysylltiadau’r bwrdd iechyd

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae’r tîm Iechyd Cyhoeddus yn hyrwyddo’r gwaith o gyflwyno MECC yn PTHB ac mae’n ceisio sicrhau bod gan staff y wybodaeth, y sgiliau a’r adnoddau angenrheidiol i wreiddio MECC mewn ymarfer bob dydd.

Mae’r tîm Iechyd Cyhoeddus yn hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi MECC ac mae’n gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid i ddatblygu ymagwedd at hyfforddiant lleol sy’n seiliedig ar anghenion.

Mae PTHB yn hyrwyddo’r modiwlau E-ddysgu ar-lein cenedlaethol ond, yn ogystal â hyn, mae PTHB yn darparu hyfforddiant pwrpasol ar MECC wyneb yn wyneb neu ar TEAMS, neu hyfforddiant gloywi byrrach ar MECC i grwpiau penodol o staff neu yn unol â chais.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected] neu Weinyddiaeth PHT Powys: [email protected]

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Ar hyn o bryd, mae tîm Iechyd Cyhoeddus Gwent yn datblygu pecyn Lefel 2 Cyffredinol MECC newydd. Megis dechrau sefydlu’r rhaglen y mae’r tîm ac nid yw’r cyrsiau wedi cael eu hysbysebu, ond anfonwch e-bost os yw hyfforddiant o ddiddordeb i chi.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected]

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Mae staff y Bwrdd Iechyd yn gallu cael at fodiwlau E-ddysgu trwy’r ESR.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected]

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) yn ymwneud â defnyddio sgyrsiau bob dydd i gynorthwyo pobl i wella’u hiechyd a’u lles. Nid yw’n ymwneud â thrafodaethau hir neu roi cyngor – mae’n ymwneud â sgyrsiau bach cefnogol a all wir wneud gwahaniaeth.

Pam mae’n bwysig

Gall sgyrsiau byr, amserol helpu pobl i feddwl yn wahanol am eu hiechyd a theimlo’n fwy hyderus i gymryd camau cadarnhaol. Mae MECC yn cefnogi atal, lles a gofal trugarog – ac mae’n cyd-fynd yn naturiol â’r gwaith rydych chi eisoes yn ei wneud.

Sut olwg sydd ar MECC yn ymarferol

  • Sgwrs fer, drugarog (rhwng 30 eiliad a 2 funud, yn aml)
  • Codi pynciau iechyd a lles pan fydd hi’n teimlo’n briodol gwneud hynny
  • Gwrando’n gyntaf – peidio â barnu na phregethu
  • Cynnig gwybodaeth syml neu gyfeirio
  • Cefnogi dewis, nid dweud wrth bobl beth i’w wneud

Rôl pawb yw MECC

Mae MECC i bawb, p’un a ydych chi’n gweithio ym maes gofal iechyd ai peidio. Nid oes angen gwybodaeth arbenigol arnoch – yn aml, mae gwybod ble i gyfeirio yn ddigon. Gall MECC ddigwydd rywle e.e. mewn clinigau, swyddfeydd, cyfarfodydd, coridorau neu leoliadau cymunedol.

 

Ble i gael help a chymorth

Does dim angen i chi wybod popeth – gall yr adnoddau hyn gefnogi’ch sgyrsiau:

  • Mae hyfforddiant ar gael trwy’r tudalennau E-ddysgu
  • Gwasanaethau lleol; Cyngor Iechyd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Hunanofal wrth i chi baratoi ar gyfer triniaeth; Hunanofal wrth i chi baratoi ar gyfer triniaeth – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Adnoddau cenedlaethol; 7 neges allweddol a mynnwch gipolwg ar y dudalen adnoddau.
  • I staff y Bwrdd Iechyd, edrychwch ar dudalen fewnrwyd y staff sy’n cynnwys dolenni i sgyrsiau trugarog, a Llawlyfr y Staff, Byw’n Dda, Gweithio’n Dda.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected]

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Mae MECC yn ddull o wreiddio atal mewn rhyngweithiadau bob dydd, gan anelu at rymuso staff i drafod materion ffordd o fyw yn briodol ac yn hyderus, a chyfeirio at gymorth priodol. Yng Nghaerdydd a’r Fro, mae hyfforddiant MECC wedi cael ei gynnig ers 2012 ac mae wedi’i gyflwyno i staff o wasanaethau iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector ac ar draws sefydliadau partneriaeth ehangach.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig hyfforddiant MECC Lefel 2 wyneb yn wyneb.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: megan.mcnaughton

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected]

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi MECC er budd ei staff a’i boblogaeth. Ar hyn o bryd, mae’n datblygu ei bresenoldeb MECC ar-lein a bydd adnoddau ategol ar gael cyn bo hir.

Ar hyn o bryd, mae hyfforddiant ar gael i bobl yn Hywel Dda yn unig. Gall staff y Bwrdd Iechyd gael at ddwy lefel hyfforddiant drwy ESR.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected] neu [email protected]

Iechydd Cyhoeddus Cymru

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Annie Petherick yn [email protected]

Gwybodaeth bellach

Adroddiadau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn