Adroddiadau
Dangosfwrdd Clystyrau Gofal Sylfaenol
Manylion:
Awduron: Tîm Dadansoddi
Cyhoeddwyd ar: 21ain Ionawr 2026
Cysylltwch am ymholiadau neu adborth
Diweddariad nesaf: I’w gyhoeddi
Cyflwyniad
Pwrpas y Dangosfwrdd Clystyrau Gofal Sylfaenol yw darparu dangosfwrdd iechyd poblogaeth Clwstwr Gofal Sylfaenol a arweinir gan ddefnyddwyr sy’n gysylltiedig â gwybodaeth iechyd y cyhoedd gofal sylfaenol a fydd yn cefnogi amrywiaeth o ddefnyddwyr ac yn llywio amodau cynllunio a fydd yn allbwn blaenllaw i’n hardal leol.
Prif bwyntiau
- Mae’r dangosfwrdd yn edrych ar faint y rhestrau, rhaniadau yn ôl oedran a rhyw, bwydo ar y fron, pwysau ganedig isel, marwoldeb, marwoldeb y gellid ei osgoi, cyflwr cronig a derbyniadau brys ar lefel clwstwr gofal sylfaenol.
- Rydym hefyd wedi cynhyrchu proffil cryno, sy’n galluogi defnyddwyr i ddelweddu dangosyddion allweddol ar gyfer pob clwstwr o fewn bwrdd iechyd ar yr un pryd. Gall defnyddwyr hefyd gymharu data dangosyddion â chyfartaledd y bwrdd iechyd a chyfartaledd Cymru gyfan. Yn ogystal, cynhwysir naratif byr sy’n amlygu canfyddiadau allweddol o’r data.
- Mae Clwstwr Gofal Sylfaenol yn cynnwys grwpiau o bractisau meddygon teulu a’u cyfrifoldeb yw gweithio gyda’i gilydd a chyda phartneriaid i ddiwallu anghenion lleol.
- Mae clystyrau ar gyfer data preswylwyr fel ag yr oedd ym mis Hydref 2024, gan ddefnyddio ACEHI (LSOA) Cyfrifiad 2021.
- Nid yw Clystyrau Gofal Sylfaenol yn union ardal ddaearyddol. Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is wedi’u mapio i’r clwstwr lle mae’r nifer uchaf o breswylwyr wedi’u cofrestru i bractis meddyg teulu o fewn y clwstwr.