Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Dangosfwrdd Trosolwg Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion:

Awduron: Tîm Dadansoddi

Cyhoeddwyd ar: 8fed Rhagfyr 2023

Cyhoeddiad nesaf: 1af a’r 15fed o bob mis

Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth

Mae datganiad cyntaf Dangosfwrdd Trosolwg Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i greu gan y Tîm dadansoddi yr Arsyllfa a Canser a Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy, ar gael nawr. Nod y dangosfwrdd yw edrych ar y darlun mawr ar anghydraddoldebau iechyd ac iechyd poblogaeth yng Nghymru, ac olrhain sut mae’r rhain yn newid dros amser.

Cyflwyniad

Mae’r dangosfwrdd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar draws cyfres o bynciau. Ar hyn o bryd, gallwch archwilio data mewn perthynas â:

  • Darparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus rhagorol
  • Cefnogi system iechyd a gofal cynaliadwy
  • Marwolaethau
  • Hyrwyddo ymddygiadau iach
  • Hyrwyddo lles meddyliol a chymdeithasol
  • Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach

Crëwyd y dangosfwrdd i ddarparu cyfres o ddangosyddion amserol lefel uchel, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu diweddaru naill ai bob pythefnos neu bob mis.

Prif bwyntiau

Er mwyn sicrhau bod y dangosfwrdd yn gyfredol, caiff data’r siart ei adnewyddu bob pythefnos neu bob mis, yn dibynnu ar ffynhonnell y data.  Sylwch fod rhai dangosyddion yn cael eu diweddaru bob chwarter, neu hirach, ac nid yw rhai yn cael eu diweddaru mwyach, oherwydd argaeledd data. Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr amserlen diweddaru ar gyfer dangosyddion penodol yn eu hadran metadata ar y dangosfwrdd.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddangosyddion pellach wedi’u cynllunio i’w cynnwys, fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau bod y dangosfwrdd yn cyd-fynd ag anghenion defnyddwyr. Bydd ymgyrchoedd atgyfnerthu COVID-19 yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r ymgyrch bresennol.

Bydd unrhyw ddatblygiadau arfaethedig yn y dyfodol yn cael eu dogfennu yma.

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Tablau data

Mynediad i’r dangosfwrdd