Dyletswydd Gonestrwydd
Gwybodaeth:
O fis Ebril 2023 ymlaen, mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i bob sefydliad y GIG yng Nghymru.
Dylai bod yn agored ac yn onest fod wrth wraidd pob perthynas rhwng y rhai sy’n darparu triniaeth a gofal a’r rhai sy’n ei dderbyn.
Yn y GIG, rydym yn ymdrechu i ddarparu gofal diogel a thosturiol o ansawdd uchel i bob un o ddefnyddwyr ein gwasanaethau. Fodd bynnag, hyd yn oed pan fyddwn yn gwneud ein gorau, gall pobl brofi niwed weithiau. Dyna pam mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd gennym.
Ein nod yw creu diwylliant o ymddiriedaeth a bod yn agored, fel y gallwch deimlo’n hyderus yn y gofal a gewch gennym.
Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i Sefydliadau GIG Cymru fod yn agored ac yn onest gyda’r defnyddwyr gwasanaethau sy’n derbyn gofal a thriniaeth. Amlinellir hyn yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol os yw’r gofal a ddarparwn wedi, neu y gallai fod wedi cyfrannu at niwed cymedrol neu ddifrifol annisgwyl neu anfwriadol, neu farwolaeth.
Mae’r ddyletswydd hon yn datblygu ar ein proses Gweithio i Wella ar gyfer codi pryderon neu gwynion.
Nid oes angen i chi gysylltu â ni ynglŷn â Dyletswydd Gonestrwydd. Byddwn yn cysylltu â chi os yw’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol i’ch gofal a’ch triniaeth. Dylech barhau i ddefnyddio ein proses Gweithio I Wella ar gyfer codi pryderon neu gwynion.
Cwestiynau cyffredin
Canllaw defnyddwyr gwasanaeth i’t Ddyletswydd Gonestrwydd
Dylai bod yn agored ac yn onest fod wrth wraidd pob perthynas rhwng y rhai sy’n darparu triniaeth a gofal a’r rhai sy’n eu derbyn.
Ein Nod
Yn y GIG, rydym yn ymdrechu i ddarparu gofal diogel a thosturiol o ansawdd uchel i bob un o ddefnyddwyr ein gwasanaethau. Fodd bynnag, hyd yn oed pan fyddwn yn gwneud ein gorau, gall pobl brofi niwed weithiau. Dyna pam mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd gennym.
Ein nod yw creu diwylliant o ymddiriedaeth a bod yn agored, fel y gallwch deimlo’n hyderus yn y gofal a gewch gennym.
Beth ydyn ni’n ei olygu wrth niewed cymedrol neu ddifrifol?
Niwed cymedrol:
Mae defnyddiwr gwasanaeth yn profi cynnydd cymedrol mewn triniaeth a niwed sylweddol, ond nid yw’n niwed parhaol. Mae’r gofal a ddarparwyd gan y GIG wedi cyfrannu at hyn, neu’n mae’n bosibl ei fod wedi cyfrannu ato. Er enghraifft, er bod nodiadau’r claf yn dweud bod alergedd gan y claf i feddyginiaeth benodol, rhoddir y feddyginiaeth honno i’r claf ac mae’n arwain at adwaith sylweddol sy’n golygu bod angen i’r claf aros yn yr ysbyty am bedwar diwrnod neu fwy cyn iddo wella.
Niwed difrifol:
Mae defnyddiwr gwasanaeth yn profi anabledd parhaol neu’n colli ei allu corfforol. Mae’r gofal a ddarparwyd gan y GIG wedi cyfrannu at hyn neu’n mae’n bosibl ei fod wedi cyfrannu ato. Er enghraifft, er bod nodiadau’r claf yn dweud bod alergedd gan y claf i feddyginiaeth benodol, rhoddir y feddyginiaeth honno i’r claf ac mae’n arwain at niwed i’r ymennydd neu niwed parhaol arall i’w organau.
Marwolaeth:
Mae defnyddiwr gwasanaeth yn marw ac mae’r gofal a ddarparwyd gan y GIG wedi cyfrannu at y farwolaeth honno neu mae’n bosibl ei fod wedi cyfrannu ati. Er enghraifft, er bod nodiadau’r claf yn dweud bod alergedd gan y claf i feddyginiaeth benodol, rhoddir y feddyginiaeth honno i’r claf ac mae’n arwain at ei farwolaeth.
Beth allwch chi ei ddisgwyl?
Dyma grynodeb o’r Weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd y bydd y GIG yn ei dilyn:
- Wrth ddod yn ymwybodol bod y ddyletswydd gonestrwydd yn berthnasol, rhaid i’r GIG hysbysu’r defnyddiwr gwasanaeth neu’r unigolyn sy’n gweithredu ar ei ran. Dylai’r cyswllt hwn fod ‘yn bersonol’, sy’n golygu dros y ffôn, galwad fideo neu wyneb yn wyneb.
- Pwrpas hysbysu’r claf ‘yn bersonol’ yw cynnig ymddiheuriad, rhoi esboniad o’r hyn sy’n hysbys bryd hynny, cynnig cymorth, egluro’r camau nesaf a darparu manylion pwynt cyswllt.
- Anfonir llythyr at y defnyddiwr gwasanaeth neu’r unigolyn sy’n gweithredu ar ei ran o fewn pum diwrnod gwaith, a fydd yn cadarnhau’r hyn a ddywedwyd yn yr hysbysiad ‘yn bersonol’.
- Bydd y GIG yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod yr hyn a ddigwyddodd a pham, a sut y gallwn ei atal rhag digwydd eto.
- Bydd hyn yn digwydd yn unol â Gweithdrefn ‘Gweithio i Wella’ GIG Cymru.
- Bydd y pwynt cyswllt enwebedig a ddarperir fel rhan o’r weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y broses hon a’r hyn a fydd yn digwydd nesaf.
- Os nad ydych am i ni gysylltu â chi, neu os byddai’n well gennych i rywun weithredu ar eich rhan, rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud y trefniadau angenrheidiol.
Ymddiheuro
Mae rhoi ymddiheuriad ystyrlon yn rhan bwysig o’r Weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd.
Mae ymddiheuriad yn fynegiant o dristwch neu ofid am y niwed a brofwyd. Fodd bynnag, nid cyfaddef bai nac atebolrwydd cyfreithiol mo ymddiheuriad.
Cefnogaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os hoffech arweiniad, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â’r sefydliad lle cawsoch eich gofal.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt sefydliadau GIG Cymru, ar gael gan:
Llywodraeth Cymru Dyletswydd Gonestrwydd y GIG
Dysgwch fwy am Ddyletswydd Gonestrwydd yn ein taflen
Canllaw defnyddwr i’r Ddyletswydd Gonestrwydd
Mae rhagor o wybodaeth am y Ddyletswydd Gonestrwydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.