Neidio i'r cynnwys

Buddsoddiad ychwanegol mewn Proffesiynau Perthynol i Iechyd

Defnydd effeithiol o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i gefnogi pobl i gadw’n iach yn y cartref

Mae defnyddio cyfran uwch o’r gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd mewn timau a chanolfannau integredig mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol yn ganolog i gyflawni’r Rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam.

Ar 24 Ionawr 2023, er mwyn ddangos yr ymrwymiad i dimau cymunedol a gofal ataliol yn y gymuned gyda’r nod o gefnogi pobl i gadw’n iach ac yn annibynnol, cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fuddsoddiad o £5 miliwn i greu Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd cofrestredig cymunedol a sylfaenol ychwanegol a swyddi gweithwyr cymorth. Mae hyn er mwyn cynyddu capasiti Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd sy’n rhan annatod o dimau cymunedol, ond sy’n cael eu tanddefnyddio ar hyn o bryd.

Mae’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn darparu arweinyddiaeth broffesiynol a fframwaith llywodraethu i wasanaethu’r Buddsoddiad Ychwanegol hwn mewn Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd. Mae Grŵp Strategol Cydweithrediadau Proffesiynol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Cymru Gyfan (PCSG) wedi’i gadeirio gan Arweinydd Cenedlaethol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol, wedi’i sefydlu i gefnogi cyflwyno newid sylweddol, hirdymor i fodel integredig a chydlynus o drawsnewid Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar draws Gofal Sylfaenol a Chymunedol.

Pwrpas y Grŵp Strategol hwn yw hwyluso, galluogi, cefnogi a bwrw ymlaen â’r gwaith cyflwyno prosiectau sy’n dangos gwerth ac effaith Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar draws Gofal Sylfaenol a Chymunedol, trwy gydweithio a chytuno ar elfennau allweddol mewn perthynas â datblygu’r adnoddau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Cronfa Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd gwerth £5 miliwn
  • Prosiectau Cronfa Integreiddio Ranbarthol
  • Prosiectau a mentrau Byrddau Iechyd Lleol

Mae’r PCSG hefyd yn cefnogi gweithredu Cydweithrediadau Proffesiynol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar sail Cymru Gyfan; gan ddarparu fforwm cenedlaethol ar gyfer trafodaeth, cymorth cenedlaethol a chymorth gan gymheiriaid, a nodi’r atebion mwyaf effeithiol ar gyfer y cyd-destun lleol a chenedlaethol.

Mae Grŵp Strategol Cydweithrediadau Proffesiynol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Cymru Gyfan yn atebol i Fforwm Goruchwylio Cynllunio Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru ac yn adrodd yn uniongyrchol iddo. Rhennir dysgu gan y grŵp hwn gyda Bwrdd Rhaglen y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC) a lle bo’n briodol gyda’r Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol.

Darllenwch fwy am fuddsoddiad ychwanegol mewn Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.

Darllenwch adroddiad canol blwyddyn y buddsoddiad ychwanegol mewn Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.

Darllenwch adroddiad diwedd blwyddyn y buddsoddiad ychwanegol mewn Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.