Neidio i'r cynnwys

Grŵp arwain y Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) gofal sylfaenol a chymunedol Cymru Gyfan

Mae Grŵp Arwain Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP) Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cymru Gyfan wedi’i gadeirio gan yr Arweinydd Cenedlaethol AHP dros Ofal Sylfaenol a Chymunedol ac mae’n bodoli i gefnogi arweinyddiaeth gydweithredol, ddeinamig, gydlynus, uchel ei pharch, lefel uchel ar gyfer y proffesiynau AHP yng Nghymru.

Pwrpas a swyddogaeth

Pwrpas cyffredinol y grŵp yw llywio gwelliannau Gofal Sylfaenol a Chymunedol sydd o bwys i ddinasyddion, y proffesiynau, GIG Cymru a’r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

Swyddogaeth y grŵp yw darparu fforwm ar gyfer Arweinwyr AHP lefel uchel sy’n gweithio ar draws Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol, lle maent yn gallu rhannu arferion gorau, ystyried materion a datblygiadau arfaethedig a dylanwadu ar elfen AHP y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC).

Amcanion allweddol y grŵp fydd:

  • Nodi cyfleoedd i wella gofal a ddarperir i bobl o fewn eu gwasanaethau drwy rannu arferion da ledled Cymru gydag Arweinwyr AHP lefel uchel eraill a’r Arweinydd AHP Cenedlaethol dros Ofal Sylfaenol a Chymunedol
  • Darparu cyngor ac arweiniad AHP lefel uchel i’r Arweinydd AHP Cenedlaethol dros y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC), gan dynnu sylw at faterion sy’n gofyn am sylw ar sail genedlaethol.
  • Cynnig fforwm i’r Arweinydd AHP Cenedlaethol lle gellir trafod elfennau o raglen waith AHP SPPC yn gyfrinachol, er mwyn cael barn arweinwyr lefel uchel AHP a lle gall arweinwyr lefel uchel AHP ddylanwadu ar waith yr SPPC.
  • Cynnig cefnogaeth, herio adeiladol a chyfleoedd i aelodau’r grŵp drafod pryderon materion gwaith neu fentrau a datrys problemau mewn amgylchedd diogel.

Atebolrwydd ac adrodd

Mae gan Grŵp Arwain AHP Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cymru Gyfan gynrychiolwyr o ystod o Arweinwyr lefel uchel y bydd ganddynt linellau atebolrwydd presennol yn broffesiynol ac yn weithredol.

Nid bwriad Grŵp Arwain AHP Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cymru Gyfan yw dyblygu’r gwaith a wneir gan y llinellau presennol hyn, ond darparu fforwm i Arweinwyr AHP lefel uchel i lywio trawsnewid Gofal Sylfaenol a Chymunedol er mwyn cyflawni’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru.

Fel y cyfryw, anogir cynrychiolwyr sy’n bresennol yng Ngrŵp Arwain AHP Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cymru Gyfan i argymell lle y gallai fod angen i waith ‘gael ei berchenogi, fod yn waith partneriaeth neu gael ei hyrwyddo’ neu ei ddatblygu ymhellach.

Mae’r Arweinydd AHP Cenedlaethol dros Ofal Sylfaenol a Chymunedol yn atebol i’r SPPC, sydd yn ei dro yn adrodd i Fwrdd Rhaglen SPPC ac i fyny i’r Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol.

Aelodau a chyfrifoldebau aelodau

Estynnir aelodaeth i’r canlynol:

  • Cyfarwyddwyr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd
  • Dirprwy Gyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddor Iechyd
  • Cyfarwyddwyr Clinigol Therapïau a Gwyddor Iechyd
  • Arweinwyr AHP Cenedlaethol
  • Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Ymgynghorol
  • Cadeiryddion Rhwydweithiau Proffesiynol AHP Cymru Gyfan
  • Arweinwyr Polisi AHP
  • Cynrychiolwyr Fforwm Proffesiwn Gofal Iechyd AHP
  • Arweinwyr Trawsnewid AHP

Yn ogystal, bydd gwahoddiad i gynrychiolwyr o’r canlynol:

  • Prif Swyddog AHP
  • Y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol
  • Cyrff perthnasol eraill ar gais y Grŵp

Gellir diweddaru’r aelodaeth wrth i’r grŵp aeddfedu ac mae’r grŵp yn cadw’r hawl i gyfethol cydweithwyr perthnasol yn ôl meysydd archwilio a datblygu.

Mae aelodau’r grŵp yn gyfrifol am y canlynol:

  • Darparu cymorth a chyngor i’r Arweinydd Cenedlaethol AHP dros Ofal Sylfaenol a Chymunedol.
  • Sicrhau bod meysydd a nodir i’w datblygu yn cyd-fynd â blaenoriaethau ac amcanion yr SPPC, Rhanbarthau Byrddau Iechyd a Phrif Swyddogion AHP.
  • Nodi arfer da yn lleol, rhannu arbenigedd a gweithio ar draws ffiniau sefydliadol i nodi meysydd datblygu, sy’n cefnogi gofal diogel, effeithiol ac amserol, cyfleoedd ar gyfer arloesi, ymchwil a gweithio integredig.
  • Paratoi a chyflwyno llais (a safbwynt) y system gyfan o fewn y sefydliad / proffesiwn / grŵp y maent yn ei gynrychioli.
  • Sicrhau bod gwybodaeth berthnasol yn cael ei chyfathrebu yn ôl i’w sefydliad / proffesiwn / grŵp mewn modd amserol.
  • Gwneud pob ymdrech i fynychu pob cyfarfod.  Gellir nodi un dirprwy enwebedig, gydag awdurdod dirprwyedig yn ôl yr angen.

Os hoffech ddysgu mwy am y grŵp hwn neu drafod dod yn aelod, cysylltwch â’r Arweinydd AHP Cenedlaethol dros Ofal Sylfaenol a Chymunedol drwy e-bost [email protected]