Neidio i'r cynnwys

Cynhyrchion offer y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC)

  • Offeryn adrodd y gweithlu cenedlaethol – Modiwl mewnbynnu data sy’n galluogi practisau meddygon teulu i gofnodi a chynnal demograffeg eu gweithlu amlddisgyblaethol
  • Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau 2022 – Mae’r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau yn mynegeio adnoddau o bob rhan o’r system yng Nghymru a allai helpu i gynhyrchu a diweddaru cynlluniau blynyddol cynllunio clystyrau / grŵp cynllunio traws-glwstwr.
  • Pecyn Cymorth Rheoli Prosiect 2022 – Mae’r pecyn cymorth hwn yn nodi’r egwyddorion allweddol ar gyfer dylunio, gweithredu a gwerthuso eich prosiect ynghyd â rhai templedi efallai y byddwch am eu defnyddio.
  • Pecyn Hyfforddiant Llywio Gofal Cenedlaethol 2022 – Datblygwyd y pecyn e-ddysgu strwythuredig hwn gan AaGIC, ar y cyd â rheolwyr practisau a staff clinigol, er mwyn bodloni gofynion y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol.
  • Pecyn Cymorth Seilwaith Cymunedol 2022 – casgliad o wybodaeth, ac adnoddau, wedi’u cynllunio ar gyfer unrhyw un (gan gynnwys proffesiwn, maes neu lefel ymarfer) sy’n cefnogi darparu gofal seiliedig ar le, waeth beth fo’r lleoliad.
  • Pecyn Cymorth Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys 2022 – Mae’r pecyn cymorth yn gasgliad o wybodaeth ac adnoddau i randdeiliaid a allai fod yn cefnogi ac yn gyrru’r Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys neu i gydweithwyr sydd â diddordeb yn y gwaith sy’n cael ei wneud.
  • Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru 2023 – Mae Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru yn gyfres o fesurau ansawdd sy’n seiliedig ar y boblogaeth a all ddarparu ffordd o fesur/cymharu systemau iechyd a gofal ledled Cymru a gellir hefyd eu haddasu i adlewyrchu blaenoriaethau lleol.  Mae’r canllaw hwn yn esbonio’r egwyddorion, y mesurau a’r defnydd o’r Dangosfyrddau.