Cynhyrchion gweithio amlbroffesiynol y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC)
- Canllaw i’r Gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) 2021 – Mae’r canllawiau hyn yn galw ar y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan i weithredu’r egwyddorion trefnu hyn a argymhellir i wneud y gorau o’r defnydd o’r gweithlu AHP mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol. Wedi’i fwriadu ar gyfer clinigwyr, rheolwyr ac arweinwyr gwasanaeth, a phawb arall sy’n cymryd rhan mewn cynllunio a darparu gwasanaethau clinigol.
- Gweithdai Rhanbarthol wedi’u Hwyluso – Cydweithrediadau Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd 2022 – Trosolwg cenedlaethol o’r gweithdai AHP rhanbarthol.
- Adroddiad Diwedd Blwyddyn SPPC 2022 – Mae’r diweddariad hwn yn rhoi trosolwg o gynnydd y Rhaglen rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.
- Gweithdai Rhanbarthol wedi’u Hwyluso – Cydweithrediadau Proffesiynol ar gyfer Nyrsio 2022 – Adroddiad trosolwg cenedlaethol o’r gweithdai Nyrsio rhanbarthol.
- Manyleb Nyrsio Cymunedol Genedlaethol: Egwyddorion, nodweddion a swyddogaethau trosfwaol Nyrsio Cymunedol yng Nghymru 2023 – Mae’r papur hwn yn amlinellu, ar lefel strategol, egwyddorion, nodweddion a swyddogaethau trosfwaol Nyrsio Cymunedol yng Nghymru ar gyfer unigolion 16 oed a hŷn. Mae profiad unigolion a theuluoedd sy’n defnyddio neu’n cael mynediad at wasanaethau nyrsio cymunedol wrth ei wraidd, trwy ddefnyddio egwyddorion craidd sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau ataliol, diogel ac effeithiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Datblygu Model Imiwneiddio Cartrefi Nyrsio 2023 – Mae’r ddogfen hon yn amlinellu;
- Pam y dylid hyrwyddo a galluogi imiwneiddio gan nyrsys cartrefi nyrsio
- Yr hyn sydd angen ei ystyried wrth ddatblygu model imiwneiddio cartrefi nyrsio ar gyfer preswylwyr a staff
- Datblygu Model Cymar i Gymar
- Gofal Cymunedol Uwch 2023 – Mae’r papur hwn yn darparu’r diffiniad y cytunwyd arno gan Unwaith i Gymru, safonau craidd a datganiadau ansawdd model gofal a chymorth Gofal Cymunedol Uwch (ward rithwir gynt). Mae hyn yn rhoi sylfaen i wasanaethau cymunedol ar gyfer darparu gofal o ansawdd uchel, ar sail tystiolaeth i bobl a phoblogaethau sydd angen gofal cymunedol uwch.
- Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig 2023 – Mae’r papur hwn yn cyflwyno diffiniad y cytunwyd arno gan Unwaith i Gymru, safonau craidd gyda datganiadau ansawdd sylfaenol, ac offeryn gwerthuso ar gyfer gweithio Amlbroffesiynol. Y diben yw cefnogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau cymunedol cydgysylltiedig, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau.
- Cefnogi Ymddygiadau Iach – Mae’r adnodd yn trafod ymddygiadau iechyd allweddol, mewn perthynas ag ysmygu, alcohol, pwysau iach, gweithgarwch corfforol, ac atal diabetes math 2
- Fframwaith Nyrsio Cymunedol Gofal Sylfaenol 2024 – Mae’r Fframwaith Nyrsio Gofal Sylfaenol a Chymunedol wedi’i ddatblygu gan nyrsys gofal sylfaenol a chymunedol ac mae’n amlinellu sut y byddant yn cyfrannu at gyflawni uchelgeisiau Cymru Iachach a’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru.