Cynhyrchion gwerthusiadau, adolygiadau ac adroddiadau’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC)
- Datblygiad fframwaith gwerthuso ar gyfer Pennu Cyfeiriad Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yng Nghymru 2022 – Datblygu fframwaith gwerthuso ar gyfer pennu cyfeiriad canolfannau gofal sylfaenol brys yng Nghymru.
- Adolygiad Cenedlaethol o Alw a Gweithgarwch Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol 2022 – a gomisiynwyd i ddarparu gwell dealltwriaeth o themâu allweddol ar gyfer darparu cymorth iechyd meddwl mewn Gofal Sylfaenol, galw, gweithgarwch ac amrywiad mewn darpariaeth Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol y GIG a chymorth iechyd meddwl y trydydd sector ar lefel Gofal Sylfaenol.
- Adroddiad Terfynol Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys – Cam 2 2022 – Mae’r adroddiad gwerthuso hwn yn rhoi trosolwg o’r cynnydd yn ystod Cam 2 gweithredu’r Rhaglen Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys (CGSB) Ebrill 2021 – Mawrth 2022, yn nodi’r gwaith a wnaed, y dysgu, yr heriau a’r camau nesaf. Mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar y canfyddiadau cynnar a ddogfennwyd yng Ngham 1 Adroddiad Braenaru ar gyfer Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys Rhagfyr 2020 – Mawrth 2021.
- Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn Cronfa SPPC 2022-2024 – Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â chynnydd chwe mis cyntaf Cronfa 2022-2024 y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC) a’r 17 o gynlluniau y mae’r rhaglen wedi buddsoddi ynddyn nhw.
- Adolygiad Canol Blwyddyn SPPC 2022 – Mae’r diweddariad hwn yn rhoi trosolwg o gynnydd rhwng Ebrill 2022 a Hydref 2022, yn nodi gwaith yr Arweinwyr Cenedlaethol ac yna’n bwrw golwg ymlaen ar gyfer ein rhaglen waith yn 2023.
- Adroddiad Terfynol Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys 2023 – Mae hwn yn grynodeb o’r Adroddiad Terfynol ar y Rhaglen Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys rhwng mis Medi 2020 a mis Mawrth 2023. Mae’r papur hwn yn adolygu’r effaith a’r gwersi a ddysgwyd yn ystod Rhaglen Genedlaethol Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys (CGSB) Cymru Gyfan.