Cynhyrchion gweithio mewn clystyrau’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC)
- Fframwaith Datblygu Clwstwr 2022 – Diben y ddogfen hon yw amlinellu’r fframwaith datblygu clwstwr fel offeryn i gefnogi monitro (rheoli ansawdd) a gwerthuso gweithredu’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG) a Datblygu Clwstwr Carlam (DCC).
- Adolygiad gan Gymheiriaid Blwyddyn Bontio DCC 2022 – Mae’r adolygiad gan gymheiriaid yn cynnig cyfle i gydnabod gwaith caled clystyrau a’u llwyddiannau, ac i nodi unrhyw rwystrau i wella gwasanaethau.
- Cynllunio gweithlu gofal sylfaenol – AaGIC (gig.cymru) – Adnoddau a chanllawiau cynllunio gweithlu Clwstwr Gofal Sylfaenol AaGIC.
- Canllawiau Cynllunio DCC – Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r gofynion ar gyfer datblygu cynllun strategol tair blynedd y grwpiau cynllunio traws-glwstwr (PCPG) a’r cynlluniau clwstwr cysylltiedig yn ystod blwyddyn sylfaen 2023/2024.
- Llywodraethu Ategol DCC (Papur model i’w ddefnyddio gan fyrddau iechyd) 2023 – Nododd y papur hwn yr egwyddorion llywodraethu allweddol, y ddeddfwriaeth drosfwaol a’r llywodraethu awgrymedig i’w hystyried gan fyrddau iechyd wrth ddatblygu a gweithredu’r mecanweithiau cynllunio a chyflwyno a ddisgrifir yn y rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam.
- Adroddiad Cryno peilot cydweithredol proffesiynol Optometreg (BIPCTM) 2023 – Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio canfyddiadau Peilot Cydweithredol Proffesiynol Optometreg a noddwyd gan y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol.
- Adolygiad gan Gymheiriaid Clystyrau Gofal Sylfaenol 2022-2023 – Yn 2022/23 cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd adolygu gan gymheiriaid i asesu cynnydd y model Clwstwr ac i lywio proses adolygu gan gymheiriaid fwy ffurfiol yn y dyfodol. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r dysgu o’r trafodaethau hyn ac yn darparu argymhellion ar gyfer datblygu’r Rhaglen Adolygu gan Gymheiriaid Clwstwr.
- Datblygiadau Gwasanaeth Newydd: Canllawiau ar gyfer Ymgysylltu ac Ymgynghori 2023 – Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau i annog ymgysylltu i gefnogi datblygiadau gwasanaeth newydd, nodi bylchau mewn gwasanaethau, datblygu cynigion gwella gwasanaethau a rheoli newid.
- Hunanfyfyrio gan Glystyrau 2024 – Y broses hunanfyfyrio gan glystyrau yw un o’r tri dull y cytunwyd arnyn nhw i werthuso’r cynnydd a wnaiff clystyrau wrth weithio tuag at gyflawni’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG) a’r rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam (DCC).
- Adroddiad Gweithio mewn Clystyrau yng Nghymru.
- Model Iechyd Meddwl a Llesiant Clwstwr Cwmtawe – fideo astudiaeth achos a lanlwythwyd i Astudiaethau Achos | Compendiwm Gofal Sylfaenol a Chymunedol