Neidio i'r cynnwys

Cefnogi ymddygiadau iach

Fe wnaeth Cymru Iachach, sef cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, dynnu sylw at yr angen i symud tuag at fwy o waith atal ac ymyrraeth gynnar er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl ac i gefnogi cynaliadwyedd ein system iechyd a gofal.
Mae’r nifer fawr o gysylltiadau rhwng unigolion a gwasanaethau gofal sylfaenol yn golygu bod llawer o gyfleoedd i ddechrau sgyrsiau ynghylch newid ymddygiad, ac i rymuso pobl i wneud dewisiadau iachach.

Mae’r is-adran Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu cyfres o adnoddau sydd wedi’u dylunio i arfogi’r gweithlu gofal sylfaenol a chymunedol i gael sgyrsiau gydag unigolion am fabwysiadu ymddygiadau iach. Mae’r ddau adnodd cyntaf yn y gyfres hon wedi’u teilwra i staff sy’n gweithio mewn (1) meddygaeth gyffredinol a (2) optometreg, gyda fersiynau pwrpasol i fferylliaeth gymunedol a lleoliadau deintyddol yn cael eu datblygu.

Mae’r adnoddau’n trafod ymddygiadau iechyd allweddol mewn perthynas ag ysmygu, alcohol, pwysau iach, gweithgarwch corfforol, ac atal diabetes math 2, ac yn cynnwys y canlynol yn benodol:

  • Meysydd ar gyfer gweithgareddau gwella ansawdd
  • Dolenni i hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer y gweithlu
  • Gwybodaeth gryno am fanteision mabwysiadu ymddygiadau iach a’r niwed sy’n cael ei achosi gan ymddygiadau afiach
  • Cyfeirio unigolion at wybodaeth ar gael cymorth pellach.

Er bod yr adnoddau isod wedi’u teilwra ar gyfer eu defnyddio mewn gwasanaethau penodol dan gontract, mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth yn berthnasol i ystod eang o staff mewn lleoliadau iechyd a gofal.

Darllenwch Cefnogi Ymddygiadau Iach – Canllaw ar gyfer meddygaeth gyffredinol

Darllenwch Cefnogi Ymddygiadau Iach – Canllaw ar gyfer optometreg