Teg i Bawb – Cynllun Gweithredu Strategol
Gan gydnabod rôl unigryw Gofal Sylfaenol wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, mae Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer holl bartïon allweddol y system gofal sylfaenol yng Nghymru.
Mae’r fframwaith wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â chydweithwyr a chymunedau sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol a chyda gofal sylfaenol ledled Cymru ac mae’n cael ei ategu gan ddata a thystiolaeth o’r hyn sydd yn gweithio.
Mae’r cynllun gweithredu wedi’i lywio gan adolygiadau llenyddiaeth, gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a chan arbenigwyr profiadol.
Mae canlyniadau’r gwaith hwn wedi’u cynnwys yn y dudalen hon:
- Teg i Bawb – Cynllun Gweithredu Strategol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy Ofal Sylfaenol
- Camau Gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru
- Camau gweithredu ar gyfer Sefydliadau Cenedlaethol
- Camau gweithredu ar gyfer byrddau iechyd
- Camau gweithredu ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (RPBs), Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) a Byrddau Cynllunio Ardal (APBs)
- amau Gweithredu ar gyfer Grwpiau Cynllunio ar draws Clystyrau Cyfan (PCPGs), Clystyrau, a Chydweithredfeydd Proffesiynol
- Camau Gweithredu ar gyfer Ymarfer Cyffredinol, Fferylliaeth, Optometreg a Deintyddiaeth
Gwybodaeth a dogfennau ategol
Adolygiad o fframweithiau presennol sy’n anelu at leihau anghydraddoldebau iechyd o fewn gofal sylfaenol. Mae’r adolygiad hwn yn amlinellu canfyddiadau adolygiad cyflym o’r llenyddiaeth ar fframweithiau presennol a nodi themâu cyffredin.
Ymyriadau clinigol i leihau anghydraddoldebau iechyd o fewn gofal sylfaenol (Saesneg yn unig). Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau chwiliad a gynhaliwyd gan Wasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru i nodi tystiolaeth ar ymyriadau atal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol gyda’r nod o leihau anghydraddoldebau iechyd o fewn gofal sylfaenol.