Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys (CGSB)
Mae’r rhaglen waith Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yn ceisio dylunio a darparu model newydd o ofal brys ar gyfer poblogaeth Cymru. Y nod yw darparu gofal di-dor, wedi’i gyflwyno ar lefel leol yn gyson beth bynnag fo’r ffiniau sefydliadol.
Mae’r pecyn cymorth Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys (CGSB) yn gasgliad o wybodaeth ac adnoddau i randdeiliaid a allai fod yn cefnogi ac yn gyrru’r Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys neu i gydweithwyr sydd â diddordeb yn y gwaith sy’n cael ei wneud.
Nod
Bydd pecyn cymorth CGSB yn helpu rhanddeiliaid i ddysgu mwy am y Rhaglen CGSB, ei thaith a’i huchelgais. Bydd y pecyn cymorth yn cefnogi rhanddeiliaid i drosi theori yn ymarfer, gan ddarparu awgrymiadau allweddol ar gyfer cael mynediad at y dysgu a chyngor gan eraill.
Nod y pecyn cymorth yw:
- Rhannu’r dysgu ar lefel Genedlaethol a Lleol o safbwynt Clinigwyr, Rheolwyr Gweithredol a Rheolwyr Rhaglenni.
- Annog cydweithio i brofi a dysgu oddi wrth ei gilydd wrth gyflwyno dull arferion gorau ‘Unwaith i Gymru’ sy’n hyrwyddo rhannu canllawiau a dogfennau arfer da
- Cynnig cymorth ac arweiniad ymarferol wrth wella Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yn barhaus.
Bydd y pecyn cymorth yn parhau fel adnodd byw a fydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd fel a phan fo’n briodol.
Sut mae’r offeryn hwn yn gweithio?
Cliciwch i ehangu pob pennawd pynciau wedi’u grwpio i ddatgelu cynnwys pwnc-benodol, a all gynnwys crynodebau mewnol, dolenni cyfeirio uniongyrchol, neu ddolenni i gynnwys pellach ar is-dudalennau.
Bydd y pecyn cymorth yn parhau i ddatblygu gyda chefnogaeth defnyddwyr. Mae eich adborth yn bwysig i ni oherwydd bydd yn ein helpu i wella’r adnodd hwn felly, anfonwch unrhyw adborth drwy e-bost at [email protected]
Pennod 1: Trosolwg o Ganolfannau Gofal Sylfaenol Brys
Mae’r rhaglen Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys (CGSB) yn un o bedair blaenoriaeth strategol allweddol y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, ac yn rhan greiddiol o’i ffrwd waith 24/7.
Mae’r cynnydd o un flwyddyn i’r llall mewn galw wedi arwain at bwysau cynyddol ar bwyntiau allweddol yn y system a gall hyn arwain at ganlyniadau negyddol o ran profiadau a chanlyniadau i gleifion ac arwain at risg o niwed posibl, felly ein gweledigaeth yw dull system gyfan lle darperir cymorth, gofal, neu driniaeth ddi-dor mor agos at y cartref â phosibl. Mae hyn yn golygu darparu gwasanaethau wedi’u cynllunio o amgylch yr unigolyn ac o amgylch grwpiau o bobl, yn seiliedig ar eu hanghenion unigryw a’r hyn sy’n bwysig iddynt, a chyflawni canlyniadau diogel o safon.
Mae Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys wedi’u sefydlu oherwydd bod pobl fwyfwy yn ymgyflwyno yn eu niferoedd, mewn practisau meddygon teulu, gwasanaethau y tu allan i oriau /111 ac Adrannau Brys gydag anghenion gofal brys nad oeddent i gyd yn cael eu diwallu gan gapasiti a gwasanaethau presennol.
Mae’r Canolfannau yn darparu mynediad i bobl at wybodaeth a chyngor, asesu a gofal yn nes at y cartref, gan osgoi’n ddiogel yr angen i ymgyflwyno mewn mannau eraill yn y system.
Mae Gofal Sylfaenol Brys wedi’i ddiffinio fel:
‘Materion iechyd a llesiant a allai arwain at niwed sylweddol neu barhaol os nad ydynt yn cael eu hasesu’n glinigol am risg a’u rheoli’n briodol o fewn yr 8 awr nesaf’.
Mae gwasanaethau Gofal Sylfaenol Brys yn cynnwys apwyntiadau gofal sylfaenol ar yr un diwrnod / y tu allan i oriau, ymgynghoriad dros y ffôn drwy NHS111 Cymru (gan gynnwys Hyb Cymorth Clinigol 111), cyngor fferyllol, a/neu atgyfeirio at Ganolfan Gofal Sylfaenol Brys (CGSB). Os nad yw pobl yn siŵr pa wasanaeth sydd ei angen arnynt, gall GIG111 Cymru helpu i’w hasesu a’u cyfeirio at y gwasanaeth/gwasanaethau priodol.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ddeall CGSB yma.
Cefndir
Nod strategol Llywodraeth Cymru yw darparu’r gofal iawn, yn y lle iawn y tro cyntaf, i bobl sydd angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng, drwy gyflawni’r chwe nod yn gyson. Gallwch lawrlwytho’r ffeithlen bolisi sy’n dangos sut mae’r model yn cysylltu â’r Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng yma.
Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddofn ar ddarparu gwasanaethau ac ymddygiad y cyhoedd yn y ffordd y maent yn cael mynediad at ofal iechyd, ac mae modelau newydd o ddarparu ar draws Gofal Sylfaenol wedi arwain at fodel darparu mwy rhithwir a chyfeiriadol.
Cydnabyddir yr angen i ailgynllunio darparu gofal i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol i sicrhau bod llwybrau cleifion yn cyflawni’r canlyniad gorau posibl. Bydd ymateb cydgysylltiedig i ofal yn sicrhau y bydd taith y claf yn cael ei rheoli o’r ymgyflwyno cychwynnol hyd at y canlyniad a gwblheir.
Mae’r rhaglen hon yn ceisio dylunio a darparu model newydd o ofal brys i boblogaeth Cymru sydd ag angen gofal sylfaenol brys, gan ddarparu gwasanaeth i bobl o fewn 8 awr o gysylltu â’u Bwrdd Iechyd lleol. Y nod yw darparu gofal di-dor, wedi’i gyflwyno ar lefel leol yn gyson beth bynnag fo’r ffiniau sefydliadol.
Mae’r Rhaglen Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yn rhan o’r ffrwd waith 24/7 ac mae’n rhan o’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chwe Nod ar gyfer Rhaglen Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng Llywodraeth Cymru. Mae’n cyd-fynd yn llawn â ffrydiau gwaith Gwella Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng presennol eraill gan gynnwys ‘Meddyliwch 111 yn Gyntaf’, cyflwyno’r rhaglen 111 yn genedlaethol a Gofal Brys yr Un Diwrnod.
Yn ogystal, mae’r rhaglen yn cysylltu â’r Rhaglen Strategol ar gyfer ffrydiau gwaith Gofal Sylfaenol, yn benodol y ffrwd waith Data a Digidol, ffrwd waith Datblygu Clwstwr Carlam a’r rhaglen Seilwaith Cymunedol sef ail linyn y ffrwd waith 24/7.
Mae’r achos dros newid ar draws Gofal Brys a Gofal Sylfaenol wedi’i wneud i fynd i’r afael â lefelau uchel o alw oherwydd bod cleifion yn ymgyflwyno fwyfwy yn eu niferoedd mewn practisau meddygon teulu, gwasanaethau y tu allan i oriau /111 ac Adrannau Brys gydag anghenion gofal brys nad ydynt bob amser yn cael eu diwallu gan gapasiti a gwasanaethau presennol. Mae’r amrywiad mewn gwasanaethau, gan ddibynnu ar amser y dydd a lleoliad, mewn gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol ledled Cymru, hefyd wedi’i gydnabod yn broblem go iawn. Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, ariannwyd Braenaru cynnar (cam 1) ar gyfer Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynnig gofal sylfaenol yn gyson ar sail 24/7 a daearyddol cyn belled ag y bo modd.
Y nod yw darparu gofal di-dor, wedi’i gyflwyno ar lefel leol yn gyson, beth bynnag fo’r ffiniau sefydliadol. Mae’r Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yn cyd-fynd â’r Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng.
Cyfeiriad
Pennwyd cyfeiriad y Rhaglen Gofal Sylfaenol Brys gan y Bwrdd Rhaglen Strategol i’w gyflawni mewn 3 cham gwahanol. Roedd y cam braenaru cyntaf yn galluogi byrddau iechyd i greu modelau lleol i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol gyda’r staff oedd ganddynt ar gael. Gweithredwyd y cam braenaru yn gyflym i brofi’r model a chofnodwyd y dysgu i gefnogi dylunio pellach o’r model yn ystod cam 2. Mae Cam 3 yn canolbwyntio ar ymgorffori’r model fel rhan o gynnig craidd y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r Clwstwr ac mae wedi’i gefnogi gan strategaethau ymadael lleol cadarn.
Darparwyd cynllun ar dudalen yn nodi’r cwmpas, y cyflawniadau allweddol a’r meini prawf llwyddiant ar gyfer pob cam gan y Bwrdd Gofal Sylfaenol Strategol. Gallwch gael mynediad at y Cynlluniau a’u lawrlwytho yma:
Darllenwch gynllun ar dudalen cam 1.
Darllenwch gynllun ar dudalen cam 2.
Datblygu a Chyflawni
Mae Datblygu Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys wedi bod yn gydweithrediad cenedlaethol gyda phob un o’r Byrddau Iechyd Lleol wedi’u hymrwymo i ariannu a phenodi Rheolwyr Rhaglenni pwrpasol i ddatblygu model lleol sy’n diwallu anghenion lleol a rhannu’r dysgu gydag ystod eang o randdeiliaid yn genedlaethol.
Pennod 2: Braenaru (Cam 1)
Yn ystod Cam 1 datblygwyd y model braenaru sy’n cyd-fynd yn llawn â’r ffrydiau gwaith presennol gan gynnwys ‘Meddyliwch 111 yn Gyntaf’, cyflwyno’r rhaglen 111 yn genedlaethol a Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng Llywodraeth Cymru (2022). Yng ngham 1, datblygodd Byrddau Iechyd a chlystyrau 2 fodel cyflenwi ar gyfer braenaru sy’n galluogi amrywiad lleol i ddiwallu anghenion newidiol y boblogaeth leol.
Roedd y modelau yn seiliedig ar gymysgedd o:
1. Gofal sylfaenol brys a ddarperir ar lefel clwstwr (neu draws-glwstwr) gan weithlu Practis Cyffredinol lleol gyda rhai modelau wedi’u cysylltu â chymorth iechyd meddwl y trydydd sector; a
2. Chanolfannau triniaeth gofal sylfaenol brys 24/7 a reolir gan fyrddau iechyd, wedi’u staffio gan gymysgedd o staff proffesiynol gyda’r sgiliau priodol.
Penawdau allweddol y Cam Braenaru (Cam 1)
- £1.86m o gyllid ymhlith 6 cais Tachwedd 20
- Dau safle yn dangos cost darparu gofal fesul claf
- Mwy na 14,000 o gleifion wedi’u hasesu yn ystod datblygu cynnar y cam braenaru
- Cynyddodd cyfraddau defnydd o un mis i’r llall mewn llawer o’r safleoedd
- Roedd CGSB yn cwmpasu cyfanswm poblogaeth o 1,535,429 o bobl, 38 clwstwr, 234 o bractisau
- Roedd safleoedd Braenaru yn cynnwys Byrddau Iechyd a modelau practis/clwstwr
- Fframwaith Gwerthuso Cenedlaethol Gofal Sylfaenol Brys ‘Cymru Gyfan’ a’r offer a gynhyrchwyd
- Cytunwyd ar ddiffiniad arloesol a chlir o Ofal Sylfaenol Brys
Gallwch ddarllen adroddiad Braenaru Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yma.
Gallwch weld y set lawn o ‘Ffeithlenni’ a gynhyrchwyd yn ystod cam 1 isod:
Ffeithlen 4 – effaith, gwerth a’r camau nesaf
Er mwyn gwerthuso’r rhaglen CGSB drwy gydol ei chylchred oes, bu’r rhaglen yn gweithio gyda Phrifysgol De Cymru (PDC) a gomisiynwyd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Fframwaith Gwerthuso Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys ar gyfer Cymru.
Gweithiodd PDC gyda’r rhaglen i ddylunio a chyflawni’r canlynol:
- Adolygiad llenyddiaeth – gosod y sefyllfa gyda thystiolaeth ryngwladol gan alluogi’r rhaglen i ddatblygu diffiniad ar gyfer Gofal Sylfaenol Brys.
- Matrics datblygu (a ddatblygwyd ar gyfer cam 1 fel llinell sylfaen i gymharu’r gwelliannau a wnaed yng nghamau 2 a 3).
- Ymarfer mapio cysyniad (a ddatblygwyd ar gyfer cam 1 gyda chyfres o argymhellion sy’n parhau i gael eu gweithredu trwy gydol cam 2 a cham 3 ar gyfer mesur perfformiad).
Er mwyn cwblhau Fframwaith Gwerthuso Cenedlaethol llawn, datblygwyd arolwg boddhad cleifion cenedlaethol ‘Unwaith i Gymru’ yng ngham 1 gan y Byrddau Iechyd Lleol a ddefnyddiwyd i gofnodi profiad y claf, ac fe wnaeth pob bwrdd iechyd gwblhau ei werthusiad lleol ei hun gan ddefnyddio templed cenedlaethol.
Mae’r rhaglen wedi bod yn cydweithio â Gofal Iechyd Digidol Cymru i gynhyrchu’r diffiniadau data safonol ar gyfer Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol. Disgwylir i’r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd cam 3.
Cynhaliodd Prifysgol De Cymru ymarfer mapio cysyniad a dynnodd sylw at yr angen i Fyrddau Iechyd Lleol adolygu setiau data yn eu rhanbarthau lleol. Fodd bynnag, gan nad oedd dangosyddion perfformiad allweddol cenedlaethol na diffiniadau penodol ar waith, roedd amrywiad sylweddol yn y wybodaeth a gasglwyd gan bob Bwrdd Iechyd. Gweithiodd Gofal Iechyd Digidol Cymru (DHCW) gyda’r grŵp cydweithredol hwn i fynd i’r afael â’r rhwystrau rhag mesur perfformiad cyffredinol megis:
- Diffyg iaith gyffredin gan gynnwys diffiniad o ofal sylfaenol brys
- Anhawster mesur ac asesu effaith heb set ddata gyffredin
- Arweiniodd lleoleiddio i ddiwallu anghenion poblogaethau clwstwr at nodau gwahanol gyda manylebau gwasanaeth gwahanol
I ddarganfod mwy am sut mae’r Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yn cael eu gwerthuso a sut mae’r Fframwaith Gwerthuso Cenedlaethol yn parhau i gael ei ddatblygu drwy bob un o’r camau, gallwch weld y dogfennau a ddatblygwyd ac a gyhoeddwyd yn ystod cam 1 yma. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ar gyfer cam 1 ym mis Gorffennaf 21 sy’n cynnwys cyfres o argymhellion ar gyfer cam 2 yn ogystal â’r Holiadur Boddhad Cleifion ‘Unwaith i Gymru’ sydd wedi’i gynnwys fel atodiad 1.
Gallwch ddarllen adroddiad Braenaru Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yma.
Darllenwch fframwaith gwerthuso’r Brifysgol ar gyfer Braenaru CGSB ac atodiadau.
Pennod 3: Dylunio (Cam 2)
Y camau nesaf oedd cymeradwyo cyllid ar gyfer Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys ar gyfer 2021-22 y cytunwyd arno trwy gyfres o werthusiadau lleol ac adolygiad o’r effaith ar bobl leol a oedd yn gallu derbyn gofal yn nes at y cartref.
Darparodd Llywodraeth Cymru y corff Craffu a Llywodraethu ar gyfer y rhaglen ac ar ddiwedd cam 1, adeiladodd y Panel Cenedlaethol ar y wybodaeth hon a chynhyrchu cynllun ar gyfer parhau â’i datblygu a’i mireinio.
Y Cynllun ar gyfer cam 2:
- Cytuno ar ddiffiniadau data yn seiliedig ar ymarfer mapio cysyniad (dolen i 6C Atodiad C Datblygu’r set ddata graidd).
- Safoni adrodd ar draws y gwahanol Systemau TG – roedd hyn yn golygu cofnodi’r sefyllfa bresennol a pharhau â’r cydweithio â Gofal Iechyd Digidol Cymru i safoni adrodd ar gyfer y sefyllfa yn y dyfodol ac adeiladu dangosfwrdd Perfformiad Cenedlaethol.
- Adeiladu Dangosfwrdd Gofal Sylfaenol Brys (gwaith ar y gweill). Gallwch weld yr adroddiad terfynol a’r asesiad effaith a gyhoeddwyd gan Gofal Iechyd Digidol Cymru drwy ymweld â Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng – Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
- Cynhyrchu adroddiad Gweithlu Cenedlaethol gydag argymhellion ar gyfer model cynaliadwy. Dolen yn dod yn fuan.
Parhau i ddiffinio model cenedlaethol ar gyfer Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yn seiliedig ar brofiad cam 1 a pharhau i gasglu gwybodaeth ar gyfer
- Cofnodi aeddfedrwydd y model, prosesau lleol a datblygu a fydd yn darparu’r elfennau a’r egwyddorion model allweddol ar gyfer ymgorffori’r Model Cenedlaethol yng ngham 3.
- Ariannu rhaglen 3 mis o brosiectau arloesi a fyddai’n:
- Cefnogi’r rhyngwyneb ar draws gofal sylfaenol brys, rhwng oriau yn ystod y dydd a ‘thu allan i oriau’ gan ganolbwyntio ar ofal di-dor.
- Annog cydweithio ar draws y rhyngwyneb gofal brys.
Dyfarnwyd y Gronfa Arloesi Gofal Sylfaenol Brys i Fyrddau Iechyd Lleol ym mis Rhagfyr 21 pan wahoddwyd pob Bwrdd Iechyd i gynnig am gyllid i ddatblygu model a fyddai’n cefnogi’r Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys.
Roedd y Gronfa Arloesi yn rhaglen garlam dri mis, a sefydlwyd yn gyflym a gwahoddwyd ‘Mynegiadau o Ddiddordeb’ ar gyfer mentrau dan arweiniad clinigwyr mewn perthynas â’r rhyngwyneb gofal sylfaenol brys a oedd yn annog cynlluniau peilot i brofi prawf o gysyniad.
O ystyried yr amserlenni cyflym a’r cyfyngiadau hysbys ar recriwtio, argymhellwyd bod cynlluniau peilot yn ystyried y defnydd o’u gweithlu presennol ac yn gallu dangos:
- Y gwerth ychwanegol ar gyfer y gaeaf (2021 – 2022)
- Llywodraethu ariannol digonol
- Mesurau i feintioli’r effaith
Roedd y mwyafrif o’r ceisiadau yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau ymweld â’r cartref acíwt gyda rhai yn anelu at amser ymateb brys o un awr, ac roedd eraill yn cynnwys mwy o frysbennu, ymarferydd iechyd meddwl cyswllt cyntaf a gwasanaethau eiddilwch wedi’u targedu.
Adroddiad y gronfa arloesi – Yn dod yn fuan
Mae’r Fframwaith Gwerthuso Cenedlaethol ar gyfer cam 2 yn dal i gael ei ddatblygu – Yn dod yn fuan
Pennod 4: Egwyddorion ac elfennau – ymgorffori’r model
Darllenwch gynllun ar dudalen cam 3.
Darllenwch y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys.
Bwrwch olwg ar ffeithlun y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys.
Darllenwch Adroddiad Terfynol y Rhaglen Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys. Mae hwn yn grynodeb o Adroddiad Terfynol y Rhaglen Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys Medi 2020 – Mawrth 2023. Mae’r papur hwn yn adolygu’r effaith a’r gwersi a ddysgwyd yn ystod Rhaglen Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys Cenedlaethol Cymru Gyfan (CGSB).
Pennod 5: Ymgysylltu
Mae cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i gyd-gynhyrchu gwasanaethau newydd neu wasanaethau sy’n newid yn dasg bwysig ac rydym wedi dewis rhannu ein profiad trwy nifer o fideos a thaflenni ffeithiau. Mae’r fideos hyn wedi bod wrth wraidd yn ein dull o esbonio sut y cafodd Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys eu datblygu ac maent yn cynnwys llu o gyfweliadau gyda staff allweddol sy’n rhannu eu dysgu, gan gynnwys sut y gwnaethant oresgyn rhai o’r rhwystrau a’r cyfyngiadau. Rydym yn gobeithio y bydd y fideos canlynol a lansiwyd yn ein digwyddiad dysgu ar 21 Hydref 21 yn cael eu gwerthfawrogi a’u mwynhau gan gynulleidfa eang a fydd yn eu gweld yn ddiddorol yn ogystal â darparu cynnwys addysgiadol i bawb.
Mae’r fideos yn cyd-fynd â fframwaith polisi Y 6 Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng sydd â’r nod o gefnogi cyflwyno model gofal undydd Gofal Sylfaenol Brys 24/7 cynhwysfawr, integredig, wedi’i gyd-gynhyrchu sy’n galluogi cleifion i gael eu cyfeirio at y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol ar yr adeg y mae ei angen arnynt i gael mynediad at ofal iechyd a chymdeithasol brys, wedi’i gyflwyno ar ôl troed clwstwr, neu aml-glwstwr.
Mae set o fideos a sgyrsiau ar gael sy’n cofnodi ein taith ac yn ‘adrodd y stori’ o sut y gwnaethom symud o gam 1 a’r dysgu a gofnodwyd i’w ddefnyddio yng nghamau 2 a 3. (Mae fideos ar gyfer camau 2 a 3 yn dal i gael eu datblygu a byddant ar gael yma cyn gynted ag y byddant ar gael).
Mae dolenni a disgrifiadau o bob fideo i’w gweld yn y ddogfen hon y gellir ei lawrlwytho.
Er bod yr adran hon wedi’i phoblogi gyda’r dysgu o ddatblygu ein Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys mewn golwg, mae cyfoeth o wybodaeth yn y fideos hyn a all eich cefnogi chi a’ch timau wrth gyfathrebu â rhanddeiliaid eraill.
Mae cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i gyd-gynhyrchu gwasanaethau newydd neu wasanaethau sy’n newid yn dasg bwysig i bob tîm. Cyfathrebu yw cyfleu neu rannu syniadau a theimladau yn llwyddiannus, felly mae unrhyw wybodaeth a rannir neu ryngweithio ag eraill yn fathau o gyfathrebu.
Mae’r adran Ymgysylltu o’r pecyn cymorth Datblygu Clwstwr Carlam yn cael ei rhannu oherwydd mae’n adnodd addasadwy sy’n darparu cyfoeth o wybodaeth ar gyfer rheoli cyfathrebu ac ymgysylltu. Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i rannu’n adrannau ac mae’n cwmpasu’r meysydd canlynol:
- Pam mae cyfathrebu ac ymgysylltu yn bwysig
- Egwyddorion cyfathrebu ac ymgysylltu clwstwr
- Strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu clwstwr
- Nodau cyfathrebu ac ymgysylltu
- Rhanddeiliaid a chynulleidfaoedd
- Sianeli a dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu
- Pam ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, a’r cyhoedd
- Cyfathrebu ac ymgysylltu â staff clwstwr
- Sianeli a dulliau ar gyfer ymgysylltu systemau iechyd a gofal
- Sianeli a dulliau ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach
- Cynllun gweithredu cyfathrebu ac ymgysylltu ac offeryn archwilio
- Dibyniaethau a risgiau
- Gwelliant parhaus mewn cyfathrebu ac ymgysylltu
- Cynlluniau cyflawni cyfathrebu ac ymgysylltu clwstwr – OASIS
Er bod yr iaith yma yn canolbwyntio ar glystyrau, mae’r wybodaeth yn eang ac yn berthnasol i bob tîm ac mae’n adnodd hynod ddefnyddiol.