Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru
Beth yw Diwrnodau Iach yn y Cartref?
Mae Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru yn gyfres o fesurau sydd wedi’u cynllunio i ddangos ffyrdd o fesur systemau iechyd a gofal ledled Cymru. Gellir addasu’r rhain i fodloni anghenion y defnyddiwr ac i greu mapiau gwres a dadansoddiadau sylfaenol o ryngweithiadau rhwng y boblogaeth â darparwyr iechyd a gofal penodol.
Mae dangosfwrdd cenedlaethol Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru yn rhoi trosolwg lefel uchel ar boblogaeth Cymru. Gofynnwyd i bob Bwrdd Iechyd greu dangosfwrdd lleol i gyd-fynd â’r un cenedlaethol er mwyn profi a chymhwyso setiau data a fformiwlâu ychwanegol y cytunwyd arnynt yn lleol. Ar ôl profi’r fformiwlâu newydd hyn ym ‘mlwch tywod’ dangosfwrdd y Bwrdd Iechyd, gellir ystyried eu cyflwyno’n genedlaethol.
[Diffinnir blwch tywod fel amgylchedd digidol diogel lle gellir arbrofi gyda data]
Mwy o wybodaeth
Mae Llinell Amser Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru (HDAHW) yn ddarlun gweledol o’r daith i gyflawni mesurau’r system gyfan. Edrychwch ar ffeithlun llinell amser Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru.
Mae canllaw defnyddiwr wedi’i ddatblygu i’ch cefnogi i lywio ac i ddefnyddio’r gyfres o fesurau Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru. Darllenwch y canllaw defnyddiwr Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru.
Cynhaliwyd Digwyddiad Dangos a Dweud ar 27 Medi 2023, ac roedd hwnnw’n blatfform i ddatblygwyr y dangosfwrdd (y Bwrdd Cenedlaethol a’r Bwrdd Iechyd) gyflwyno’r gwaith yr oeddent wedi’i wneud ar Gyfres Mesurau Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru. Edrychwch ar ffeithlun digwyddiad Dangos a Dweud Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru.
Gallwch hefyd weld ffeithlun ar ddull system gyfan Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru.
Mynediad
Gallwch ofyn am fynediad at Ddangosfwrdd Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru drwy gysylltu â [email protected] a dewis y bwrdd iechyd perthnasol. Neu gallwch anfon cais i gael eich cyfeirio at ddangosfwrdd cenedlaethol Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru.
Mae mynediad yn dibynnu ar eich swydd a’ch sefydliad.