Amgylcheddau Gordewogenig
Defnyddir y term amgylchedd gordewogenig i ddisgrifio amgylchedd byw sy’n annog cymeriant ynni uchel a diffyg ymarfer corff. Gall hyn wneud cynnal pwysau iach yn heriol.
Mae rhai enghreifftiau o ffactorau amgylcheddol gordewogenig yn cynnwys:
- diffyg cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol: mynediad cyfyngedig i fannau diogel ar gyfer gweithgarwch corfforol, swyddi eisteddog, dibyniaeth ar geir a mwy o amser sgrin;
- amgylchedd bwyd: bwydydd ar gael yn eang sy’n uchel mewn calorïau ac yn wael o ran maeth, bwyd yn cael ei farchnata’n bwerus, dognau mawr, lleoliadau heb lawer o fynediad at fwyd iachach, a chost uchel opsiynau iachach;
- ffactorau yn yr amgylchedd ehangach sy’n achosi straen a heriau iechyd meddwl a lles;
- ffactorau economaidd: gwahaniaethau mewn incwm, costau uchel byw’n iach, ac arferion corfforaethol sy’n blaenoriaethu elw dros iechyd;
- dylanwadau cymdeithasol a diwylliannol: normau diwylliannol sy’n blaenoriaethu cyfleustra, dylanwadau gan deulu a chyfoedion, a’r cyfryngau’n hyrwyddo bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr.
- penderfynyddion masnachol: mae bwydydd sy’n uchel mewn braster a siwgr ar gael yn eang ac yn cael eu hyrwyddo, ac nid oes llawer o reoleiddio ar farchnata’r bwydydd hyn.