Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 2023 i 2024

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 19eg Mawrth 2026

Croeso i’r chweched adroddiad ystadegol blynyddol a gyhoeddwyd gan Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW), Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nod y gwasanaeth yw canfod retinopathi diabetig cyn i unigolion golli eu golwg.

Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos y gellir atal colli golwg mewn 70 – 90% o bobl â retinopathi diabetig sy’n bygwth eu golwg os caiff ei adnabod a’i drin yn gynnar.

Comisiynwyd DESW (Gwasanaeth Sgrinio Retinopathi Diabetig Cymru gynt) yn wreiddiol fel gwasanaeth cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2002. Daeth DESW yn weithredol ym mis Mehefin 2003 ac erbyn 2004 roedd yn darparu gwasanaeth i gyfranogwyr yn ardaloedd pob Bwrdd Iechyd. Cynhaliwyd y gwasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro tan fis Ebrill 2016 pan drosglwyddodd i ymuno â’r Rhaglenni Sgrinio eraill sy’n seiliedig ar y boblogaeth a ddarparwyd gan Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 2023-24

PDF, 930KB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru 2023-24 (930 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig